Tŷ pâr â thair ystafell wely ar werth yn Llwynhendy
140 Pant Bryn Isaf, Llwynhendy, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 9EJ

£117,538.00

Manylion Allweddol

Mae'r tŷ pâr fforddiadwy hwn, sydd â thair ystafell wely, wedi'i leoli ar safle Pant Bryn Isaf yn Llwynhendy. Ar gyrion tref Llanelli, mae yna amrywiaeth o gyfleusterau ar gael sy'n cynnwys siopau adwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa. Cysylltiadau ffordd gwych lle bydd gennych fynediad i'r M4 drwy'r A4138. Mae Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin oll o fewn pellter teithio hawdd, ac felly mae'r lleoliad hwn yn un delfrydol.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 15 Rhagfyr 2021.

I gael rhagor o fanylion ynghylch y tŷ hwn, mae croeso i chi gysylltu â Mr Williams drwy ffonio 07716 134 693 neu anfon neges e-bost at emyrwilliams84@gmail.com.

Gwneud cais am yr eiddo hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai