Byngalo dwy ystafell wely ar wahân yn Llys Tirnant, Fforestfach, Tŷ-croes.
15 Llys Tirnant, Fforestfach, Tŷ-croes, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3PS

£73,974.00

Manylion Allweddol

Mae'r cartref fforddiadwy hwn yn fyngalo dwy ystafell wely newydd sbon sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd fel rhan o ddatblygiad Haywood Homes yn Llys Tirnant sy'n cynnwys 17 eiddo ym mhentref Tŷ-croes, bydd yn barod ar ddechrau mis Awst 2021.

Bydd yr eiddo'n cael ei adeiladu i safon uchel gyda gwres canolog nwy, cegin wedi'i ffitio'n llawn a theils llawr seramig yn y gegin a'r ystafell ymolchi. Mae'r eiddo hefyd yn elwa o 2 le parcio preifat a gardd gefn breifat.

Lleoliad

Mae Tŷ-croes yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau sy'n cynnwys siopau ac ysgol. Mae'r cartref hwn hefyd tua thair milltir i ffwrdd o Ganol Tref Rhydaman lle byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o gyfleusterau pellach sy'n cynnwys siopau manwerthu, canolfannau deintyddol a meddygol, ysgolion, sefydliadau bwyd, siopau trin gwallt a champfa. Mae gan yr ardal gysylltiadau rhagorol drwy ffyrdd megis yr A40, A48, A484 a'r A485. Mae Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin oll o fewn pellter teithio hawdd, ac felly mae'r lleoliad hwn yn un delfrydol. Rhydd-ddeiliadaeth.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 26 Gorffennaf 2021.

Y pris fforddiadwy yw £73,974, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £180,000 felly byddech yn talu 41.10% o'r ecwiti.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.

  • Llawr Gwaelod: Cegin, Ystafell Fyw, Dwy Ystafell Wely ac Ystafell Ymolchi
  • Y tu allan: Gardd gefn a llefydd parcio i ddau gar

Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.

Bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) y tŷ hwn ar gael gan y datblygwr.

I gael rhagor o fanylion am yr eiddo hwn, cysylltwch â Haywood Homes drwy anfon neges e-bost at enquiries@haywoodhomes.com.

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai