Tŷ pen y teras â dwy ystafell wely ar werth yn Llangynnwr
23 Maes Lewis Morris, Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PL

£71,050

Manylion Allweddol

Mae'r tŷ fforddiadwy hyfryd hwn yn dŷ pen y teras â dwy ystafell wely. Mae'r eiddo hwn ar ystâd a ddatblygwyd tua 6 blynedd yn ôl gan Lovell. Mae wedi'i leoli ar gyrion tref Caerfyrddin. Ym mhentref Llangynnwr, mae siop ac ysgol iau. Gan fod y tŷ hwn ar gyrion Caerfyrddin, mae ystod pellach o gyfleusterau ar gael sy'n cynnwys siopau adwerthu, sinema, ysgolion, canolfannau deintyddol a meddygol, campfa, a safleoedd bysiau a gorsafoedd trenau. Mae cysylltiadau ffyrdd da â Llanelli ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 20 April 2021.

Y pris fforddiadwy ar gyfer yr eiddo hwn yw £71,050, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £145,000 felly byddech yn prynu 49.00% o'r eiddo hwn.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.

  • Y Llawr Gwaelod: Cyntedd, cegin ac ystafell fyw
  • Y Llawr Cyntaf: Un ystafell wely ddwbl, un ystafell wely sengl ac ystafell ymolchi
  • Allanol: Dau fan parcio dynodedig a gerddi yn y blaen a'r cefn

Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni y cartref hwn ar gael.

I drefnu ymweliad a gofyn am ragor o wybodaeth am yr eiddo, cysylltwch â Mrs Symons drwy e-bost jen.symons@icloud.com neu ffoniwch 07803 301354 neu 07827 820589.

Cyflwyno cais am yr eiddo hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai