Mae tŷ pen teras dau ystafell wely yng Ngharwe, Cydweli ar werth
25 Rhodfa’r Ceffyl, Carwe, Cydweli, Sir Gaerfyrddin, SA17 4GB

£101,500.00

Manylion Allweddol

Mae'r Cartref Fforddiadwy hwn yn dŷ pen teras 2 ystafell wely ar ddatblygiad yn Ffos Las, ac mae ar gael i ymgeiswyr cymwys. Mae'r datblygiad yn agos i Dref Llanelli a Thref Caerfyrddin lle mae'r cyfleusterau canlynol ar gael sy'n cynnwys banciau, Swyddfa'r Post, siopau manwerthu, canolfan hamdden, sinema, gorsaf drenau ac ysgolion. Mae'r eiddo hwn yn agos at Gae Rasio Ffos Las lle mae rasys ceffylau yn cael eu cynnal ynghyd â llawer o ddigwyddiadau cyffrous eraill. Mae'r cartref hwn wedi'i amgylchynu gan gefn gwlad prydferth Cymru yn barod i chi ei grwydro. Mae gan y tŷ gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Caerfyrddin ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae hwn yn dŷ perffaith i rywun sy'n dymuno bod yn berchen ar gartref fforddiadwy/prynwr tro cyntaf. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer dau gerbyd yn ogystal â gardd gefn.

Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 14 Chwefror 2022.

I drefnu gweld y tŷ a gofyn am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mr Chilton drwy e-bost kieranjonchilton@gmail.com neu ffoniwch ar 07403418876.

Rhowch gynnig am y tŷ hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai