Tŷ pen y teras â dwy ystafell wely ar werth yn Llangynnwr
26 Maes Lewis Morris, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PL

£72,275

Manylion Allweddol

Mae'r tŷ fforddiadwy hyfryd hwn yn dŷ pen y teras â dwy ystafell wely. Mae'r eiddo hwn ar ystâd a ddatblygwyd tua 6 blynedd yn ôl gan Lovell. Mae wedi'i leoli ar gyrion tref Caerfyrddin. Ym mhentref Llangynnwr, mae siop ac ysgol iau. Gan fod y tŷ hwn ar gyrion Caerfyrddin, mae ystod pellach o gyfleusterau ar gael sy'n cynnwys siopau adwerthu, sinema, ysgolion, canolfannau deintyddol a meddygol, campfa, a safleoedd bysiau a gorsafoedd trenau. Mae cysylltiadau ffyrdd da â Llanelli ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 17 Tachwedd 2020.

Y pris fforddiadwy ar gyfer yr eiddo hwn yw £72,275, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £147,500 felly byddech yn prynu 49.00% o'r eiddo hwn.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.

  • Y Llawr Gwaelod: Cyntedd, cegin ac ystafell fyw
  • Y Llawr Cyntaf: Un ystafell wely ddwbl, un ystafell wely sengl ac ystafell ymolchi
  • Allanol: Dau fan parcio dynodedig a gerddi yn y blaen a'r cefn

Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni y cartref hwn ar gael.

I drefnu ymweliad a gofyn am ragor o wybodaeth am yr eiddo, cysylltwch â Mrs Kettle drwy e-bost lucy_cox1985@hotmail.co.uk neu ffoniwch 07967 335848.

CYFLWYNO CYNNIG AM YR EIDDO HWN

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai