Tŷ pen teras â 3 ystafell wely ar werth yn Llangynnwr
55 Rhodfa Morgan Drive, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2NT

£96,027.75

Manylion Allweddol

Mae'r tŷ fforddiadwy hyfryd hwn yn dŷ pen teras â 3 ystafell wely. Mae wedi'i leoli ar gyrion tref Caerfyrddin. Ym mhentref Llangynnwr, mae siop ac ysgol iau. Gan fod y tŷ hwn ar gyrion Caerfyrddin, mae ystod pellach o gyfleusterau ar gael sy'n cynnwys siopau adwerthu, sinema, ysgolion, canolfannau deintyddol a meddygol, campfa, a safleoedd bysiau a gorsafoedd trenau. Mae cysylltiadau ffyrdd da â Llanelli ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 25 Mai 2021.

Y pris fforddiadwy ar gyfer yr eiddo hwn yw £96,027.75, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £167,500 felly byddech yn prynu 57.33% o'r eiddo hwn.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.

  • Llawr Gwaelod: Cyntedd, cegin, ardal fwyta, ystafell fyw a thoiled lawr stâr
  • Llawr Cyntaf: Un ystafell wely ddwbl ag en-suite, un ystafell wely ddwbl, un ystafell wely sengl ac ystafell ymolchi
  • Allanol: Dau le parcio dynodedig a gardd gefn

Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni y cartref hwn ar gael.

I drefnu ymweliad a gofyn am ragor o wybodaeth am yr eiddo, cysylltwch â Mrs Green drwy e-bost emma.green21@outlook.com neu ffoniwch 07890266120.

Cyflwyno cais am yr eiddo hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai