Tŷ diwedd teras dwy ystafell wely ar werth yn Llanelli.
6 Y Corsydd, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2DX

£69,948.00

Manylion Allweddol

Mae'r cartref fforddiadwy hwn yn Y Corsydd yn dŷ diwedd teras dwy ystafell wely, mae'r eiddo ar ddiwedd bloc o dri thŷ. Mae'r eiddo hwn yn agos i Glwb Golff Machynys. Mae ar gyrion tref Llanelli, lle mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael sy'n cynnwys siopau adwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa. Mae yna gysylltiadau ffordd gwych lle bydd gennych fynediad i'r M4 drwy'r A4138. Mae Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin oll o fewn pellter teithio hawdd, ac felly mae'r lleoliad hwn yn un delfrydol.

Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 16 Mai 2022.

I gael rhagor o fanylion ynghylch y tŷ hwn, mae croeso i chi gysylltu â Mrs Morris drwy ffonio 07969 164 785 neu anfon e-bost at jademoz_6@hotmail.co.uk.

Cyflwyno cynnig am yr eiddo hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai