Tŷ pâr newydd â 3 ystafell wely ar werth yng Nghlos Benallt Fawr, Fforest, yr Hendy.
Llain 21, 47 Clos Benallt Fawr, Fforest, yr Hendy, SA4 0TQ

£85,333.00

Manylion Allweddol

Mae'r tŷ pâr newydd hwn sydd â 3 ystafell wely wedi'i leoli yng Nghlos Benallt Fawr, Fforest, yr Hendy. Mae'r tŷ hwn wedi'i leoli tua 5 milltir o Ganol Tref Llanelli ac nid yw'n bell o Bontarddulais. Mae Canol Tref Llanelli yn cynnig ystod eang o gyfleusterau sy'n cynnwys, siopau adwerthu, sinema, canolfannau deintyddol a meddygol, campfa a siopau bwyd. Bydd gennych gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli ac Abertawe

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda ni a bodloni ein meini prawf i brynu'r eiddo hwn.

Disgwylir iddo gael ei gwblhau tua Mawrth / Ebrill / Mai 2021. Mae'r tŷ newydd hwn ar gael i brynwyr sy'n gymwys. Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 23 Chwefror 2021.

Y pris fforddiadwy ar gyfer yr eiddo hwn yw £85,333.00, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £158,000.00 felly byddech yn prynu 54.01% o'r eiddo hwn.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy yn y dyfodol.

  • Y Llawr Gwaelod: Cegin, ystafell fwyta ac ystafell fyw cynllun agored, toiled lawr stâr.
  • Y Llawr Cyntaf: 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi i'r teulu
  • Y tu allan: Gardd gefn a lleoedd parcio i dau gar

Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.

Bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) y cartref hwn ar gael gan y datblygwr.

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad hwn, cysylltwch â'r datblygwr Persimmon drwy ffonio 01792 229800. Mae ar agor ddydd Llun - ddydd Sul *11am - 6pm. *Ar gau bob dydd Mawrth a dydd Mercher*

Enghreifftiau yn unig yw'r lluniau - mae'n bosibl y bydd y tŷ go iawn yn amrywio rhywfaint i'r lluniau.

Rhowch gynnig am y tŷ hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai