Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei chasglu a'i chadw at y dibenion canlynol:

  • Rhoi cyngor cyfreithiol i aelodau a swyddogion y Cyngor ac i gyrff allanol yr ydym hefyd yn darparu cyngor cyfreithiol iddynt, megis Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
  • Cynnal achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd
  • Cynnal trafodion cyfreithiol eraill ar ran y Cyngor megis gwerthu a throsglwyddo eiddo

Y sail gyfreithlon dros brosesu y wybodaeth hon yw:

  • Erthygl 6.1(c) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU – pan fo rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor i wneud rhywbeth, neu
  • Erthygl 6.1(e) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU - pan fo'r Cyngor yn cyflawni tasg er budd y cyhoedd, neu wrth arfer awdurdod swyddogol y Cyngor.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am eich iechyd a data personol (sensitif) categori arbennig arall lle bo hynny'n angenrheidiol at y dibenion a amlinellir uchod.

Mae gwybodaeth am euogfarnau troseddol hefyd yn cael ei phrosesu o dan reolaeth awdurdod swyddogol, lle bo hynny'n angenrheidiol at y dibenion a nodir uchod.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Gwybodaeth am rywedd neu bennu rhywedd
  • Rhifau cyfeirio unigryw
  • Rhifau Ffôn
  • Cyfeiriadau e-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Gwybodaeth am anghenion tai
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Rhifau cofrestru Cerbydau

 Lle bo'n berthnasol, rydym yn defnyddio'r mathau canlynol o ddata personol sensitif (gelwir yn data categori arbennig):

  • Gwybodaeth am eich Iechyd
  • Hil neu darddiad ethnig
  • Barn wleidyddol
  • Cred Grefyddol neu Athronyddol
  • Aelodaeth o undeb llafur
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu'ch cyfeiriadedd rhywiol
  • Collfarnau neu droseddau

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi o'r ffynonellau canlynol:

  • Pob adran arall o'r Cyngor yr ydym yn darparu gwasanaethau cyfreithiol ar eu cyfer
  • Y Llysoedd a Thribiwnlysoedd
  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac asiantaethau llywodraethol cenedlaethol
  • Yr Heddlu a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Sefydliadau trydydd sector fel elusennau a grwpiau cymunedol
  • Unigolion preifat eraill, busnesau sector preifat a'u cynrychiolwyr cyfreithiol.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth.  Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn darparu cyn lleied o wybodaeth ag sy'n angenrheidiol ym mhob achos i'r canlynol:

  • Aelodau a Swyddogion y Cyngor
  • Gweithwyr cyfreithiol allanol sy'n gweithio i ni
  • Llysoedd a Thribiwnlysoedd
  • Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Yr Heddlu a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Sefydliadau trydydd sector fel elusennau a grwpiau cymunedol
  • Unigolion preifat eraill, busnesau sector preifat a'u cynrychiolwyr cyfreithiol

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am y cyfnod y mae ei hangen yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd