Pam mae etholiadau Senedd Cymru yn bwysig?
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/03/2026
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfynu sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu. Mae’n dewis sut mae gwario arian cyhoeddus ac mae’n penderfynu sut mae darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma le caiff deddfau Cymru eu pasio a lle caiff rhai o drethi Cymru eu gosod. Bydd Aelodau o’r Senedd yn edrych ar waith Llywodraeth Cymru ac yn gofyn cwestiynau am ei phenderfyniadau a’i gwariant yn y Senedd.
Mae’r Senedd yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru ac yn holi ei Gweinidogion. Mae’n archwilio cynlluniau’r Llywodraeth ac yn awgrymu newidiadau iddynt. Mae’r Aelodau hefyd yn codi materion yn y Senedd sy’n bwysig i chi.
Mae’r Senedd yn gyfrifol am wasanaethau fel iechyd, addysg, a thrafnidiaeth.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am rôl y Senedd yma.
Ymgeiswyr ac Asiantau
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn darparu canllawiau sy'n anelu at rhoi cyngor ymarferol i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol.
Pwy sy’n cael pleidleisio yn yr etholiad hwn?
Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio (gweler y wybodaeth isod ynghylch sut i wneud hyn).
Ar ôl cofrestru, gall y bobl ganlynol bleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai 2026:
- Pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn
- Dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, neu ddinasyddion cymwys o’r Gymanwlad
- Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
- Dinasyddion tramor cymwys (dinesydd tramor cymwys yw rhywun sydd â’r hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, neu rywun nad oes angen hawl o’r fath arno / arni).
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.
Nid oes angen Dogfen Adnabod Pleidleisiwr arnoch i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Cofrestru i bleidleisio
I bleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru, mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026.
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein. Mae’n cymryd 5 munud yn unig i gofrestru.
I gofrestru, bydd angen i chi ddarparu’r manylion canlynol:
- eich enw llawn,
- eich cyfeiriad,
- eich dyddiad geni, ac
- eich rhif yswiriant gwladol (os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn). Byddai’n ddefnyddiol i chi gael eich rhif yswiriant gwladol wrth law. Gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog, P60, neu lythyron am drethi, pensiynau a budd-daliadau.
Os na fyddwch chi’n gallu darparu unrhyw un o’r manylion am unrhyw reswm, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Os byddwch chi’n darparu cyfeiriad e-bost, dylech gael e-bost gyda chadarnhad ar ôl i chi wneud cais i gofrestru.
Os na fyddwch chi’n darparu cyfeiriad e-bost, byddwch chi’n derbyn llythyr yn y post.
I gofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn (ond ni allwch bleidleisio tan y byddwch yn 16 neu’n 18 oed yn dibynnu ar yr etholiad) ac mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- dinesydd Prydeinig neu Wyddelig
- dinesydd cymwys o’r Gymanwlad sy’n byw yn y Deyrnas Unedig
- dinesydd cymwys o’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig
- dinesydd tramor cymwys.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.
Peidiwch â gadael cofrestru tan y funud olaf, rhag ofn y byddwch chi’n cael problemau.
Penderfynu sut i bleidleisio
Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, mae nifer o ffyrdd y gallwch chi bleidleisio.
Dyddiadau allweddol
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Llun, 20 Ebrill 2026;
- Os ydych chi wedi symud cartref yn ddiweddar ac nid ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026;
- Os ydych chi eisiau pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 21 Ebrill 2026;
- Os ydych chi eisiau pleidleisio drwy ddirprwy (nid drwy ddirprwy mewn argyfwng), y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026;
- Bydd pleidleisiau trwy ddirprwy mewn argyfwng ar gael ar ôl 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026 tan 5.00pm ar 7 Mai 2026 ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol yn unig. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01267 228889.
- Diwrnod yr etholiad fydd dydd Iau, 7 Mai 2026. Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7.00am tan 10.00pm.
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk, drwy ffonio 01267 228889 neu drwy’r post - Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Gwelliannau Teithio Llesol Caerfyrddin
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri (1)
- Cynnig i gau Ysgol Gynradd Meidrim o 31 Rhagfyr 2026
- Cynnig i gau Ysgol Y Fro o 31 Rhagfyr 2026
- Goleuadau Traffig Halfway ar yr A4138
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2026
- Ysgol Llansteffan
- Cynnig i ad-drefnu'r ddarpariaeth feithrin yn ardal tref Rhydaman
- Cynigion i newid yr ystod oedran o 4-11 oed i 3-11 oed yn Ysgol Cwrt Henri, Cwrt Henri
- Cynigion i newid yr ystod oedran o 4-11 oed i 3-11 oed yn Ysgol Llanybydder, Llanybydder
- Cynigion i newid yr ystod oedran o 4-11 oed i 3-11 oed yn Ysgol Y Ddwylan, Castellnewydd Emlyn
- Cynigion i newid yr ystod oedran o 4-11 oed i 3-11 oed yn Ysgol Gymraeg Y Tymbl, Y Tymbl
- Cynigion i newid yr ystod oedran o 4-11 oed i 3-11 oed yn Ysgol WRh Talacharn, Talacharn
- Llifogydd
- Afonydd Gwydn
- Arolwg Cyhoeddus Amgueddfa Cyflymder
- Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer Llandeilo, Llanelli a Chaerfyrddin
- Creu Lleoedd
- Asesiad Anghenion Sipsiwn a Theithwyr
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2025
- Strategaeth Fwyd Sir Gaerfyrddin
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd -2 (2025-2030)
- Arolwg Troseddau ac Anhrefn
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033 - Ymgynghoriad ar Safleoedd Ychwanegol yn y CDLl Diwygiedig
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Cyfnewidfa Trafnidiaeth Aml-ddull Llanelli
- Gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed)
- Ymgynghoriad - Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
- Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyhoeddus Ddrafft - Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri
- Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024
- Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Canllaw Dylunio Tu Blaen Siop Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Effeithlonrwydd Ynni Priodol mewn Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar Gyfer Cynaliadwyedd
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Y Gymraeg
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau, cynlluniau a pholisïau
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-24
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad y Senedd 2026
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Pleidleisio drwy'r Post a Phleidleisio drwy Ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Pleidleisio hygyrch yn Sir Gaerfyrddin
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
- Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf
