Gwasanaeth Cynhwysiant

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu yn cael ei defnyddio i asesu ac i gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol eich plentyn.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol er mwyn asesu Anghenion Dysgu Ychwanegol plant o dan y Ddeddf Addysg.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Eich Enw
  • Enw eich Plentyn
  • Eich Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Dyddiad Geni eich Plentyn
  • Rhyw eich Plentyn
  • Eich Teulu
  • Gwybodaeth o ran cyfrifoldeb rhieni
  • Amgylchiadau cymdeithasol megis a yw plentyn yn derbyn gofal
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Gwybodaeth am iechyd, gallu a sgiliau eich plentyn
  • Cred Grefyddol neu Athronyddol
  • Iaith eich Cartref

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond hefyd y wybodaeth ganlynol o ysgol eich plentyn:

  • Eich Enw
  • Enw eich Plentyn
  • Eich Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Dyddiad Geni eich Plentyn
  • A yw plentyn yn derbyn gofal
  • Presenoldeb yn yr ysgol a chyrhaeddiad addysgol
  • Gwybodaeth am iechyd, gallu a sgiliau eich plentyn
  • Iaith y cartref a'r ysgol
  • Gwybodaeth o ran cyfrifoldeb rhieni
  • Lle bo'n berthnasol, gwybodaeth am dramgwyddau troseddol

Rydym yn cael gwybodaeth feddygol gan fyrddau iechyd lleol y GIG fel rhan o'r broses asesu.

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg y Cyngor yn ogystal â gweithwyr proffesiynol addysg breifat wedi'u comisiynu gan rieni yn darparu canlyniadau asesiadau gwybyddol.

Yn ogystal, rydym yn gofyn i wasanaethau gofal cymdeithasol i blant am gyngor, gan gynnwys eu hymwneud â phlentyn.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

I gael data personol gan y ffynonellau uchod, rydym yn darparu enw, cyfeiriad a dyddiad geni eich plentyn iddyn nhw.

Ar ôl i ni gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i gynnal asesiad, rhennir y wybodaeth hon â phanel sy'n cynnwys Penaethiaid ac Athrawon o ysgolion nad yw eich plentyn yn eu mynychu.

Os cynhyrchir datganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol, rhennir copi o'r datganiad ag ysgol eich plentyn.

Yn ogystal, mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch neu eich plentyn, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn ni'n cadw data personol ynghylch asesiadau o Anghenion Dysgu Ychwanegol am 21 mlynedd ar ôl y tro olaf i ni ymwneud â'ch plentyn.  Mae hyn yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth