Y Cyllideb y Cyngor

Cyn y gellir pennu’r gyllideb, mae angen inni benderfynu ynghylch y canlynol:

  • faint y mae angen inni ei wario i gynnal gwasanaethau ar lefel dderbyniol
  • unrhyw bwysau ychwanegol o ran gwariant, fel cynnydd mewn prisiau, codiadau cyflog a datblygiadau o ran gwasanaethau
  • maint yr arbedion y gallwn eu cyflawni
  • faint y byddwn yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru

Caiff Strategaeth y Gyllideb ei pharatoi i’w hystyried a’i harchwilio gan yr Aelodau ac rydym hefyd yn ymgynghori â’r cyhoedd a phartïon eraill sydd â diddordeb. Caiff y gyllideb ei phennu gan y Cabinet ym mis Chwefror a’i chymeradwyo’n ffurfiol yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Mawrth.

 

Datganiad o gyfrifon

Y Gyfriflen yw'r Crynodeb statudol o faterion ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a chaiff ei pharatoi'n unol â Chôd Ymarfer Cyfrifeg yr awdurdod lleol (ACOP).

Diben y Gyfriflen yw darparu gwybodaeth glir am gyllid gyffredinol y cyngor ar gyfer etholwyr, trethdalwyr lleol, aelodau'r cyngor ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb, a dangos sut mae cyngor y ddinas wedi defnyddio arian cyhoeddus yn ystod y flwyddyn.

Cymerwch olwg ar gyllideb lawn y Cyngor

Cyngor a Democratiaeth