Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2024

Mae'r newidiadau isod yn berthnasol i'r etholwyr hynny sy'n ystyried gwneud cais am bleidleisio drwy'r post neu benodi rhywun i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn ddirprwy.

Newidiadau i bleidleisio drwy'r post:

Etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy system ar-lein llywodraeth ganolog newydd. Bydd yn ofynnol cadarnhau hunaniaeth etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, a hynny wrth wneud cais ar-lein ond hefyd wrth lenwi cais papur.

Bydd eich cais am y ddau fath hyn o etholiad yn para am hyd at dair blynedd. Bydd angen i chi wneud cais newydd erbyn y trydydd 31 Ionawr ar ôl i'ch cais gael ei ganiatáu. Bydd hysbysiad o'r angen i wneud cais newydd yn cael ei anfon cyn hyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Mewn etholiadau Seneddol neu etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, bydd terfyn hefyd ar faint o bleidleisiau drwy'r post y caiff etholwr eu cyflwyno mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu adeilad cyngor. Byddwch yn cael cyflwyno eich un eich hun, a hyd at bump arall.

Yn y ddau fath hyn o etholiad, bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn cael eu gwahardd rhag ymdrin â phecynnau pleidleisio drwy'r post ar ran etholwyr oni bai eu bod yn cyflwyno eu pleidlais eu hunain, perthynas agos neu rywun y maen nhw'n darparu gofal rheolaidd iddo neu y darperir gofal rheolaidd iddo gan sefydliad sy'n eu cyflogi neu'n eu defnyddio.

Cyflwyno pleidleisiau post â llaw – cofiwch:

Os byddwch yn colli'r post, gallwch gyflwyno eich pleidlais bost a/neu bleidlais bost pobl eraill yn swyddfeydd canlynol y Cyngor yn ystod oriau agor y swyddfa:

  • Bloc 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, Uned 22, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin, SA22 1GA
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli, 36 Stryd Stepney, Llanelli SA15 3TR
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman, 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS

Neu cyn 10pm mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn y Sir ar ddiwrnod yr etholiad.

Byddwch yn cael ffurflen y mae'n rhaid i chi ei chwblhau er mwyn i'r pleidlais/pleidleisiau post rydych yn eu cyflwyno gael eu derbyn.

Gallwch gyflwyno eich pleidlais bost eich hun neu bleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 etholwr arall.

Etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol

Yn achos etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy'r post ond bydd yn rhaid i chi lenwi cais papur. Gallwch ofyn am un o'r ffurflenni hyn gan eich swyddfa etholiadau neu fynd ar-lein i lawrlwytho'r ffurflen hon o wefan y Comisiwn Etholiadol. Nid oes angen cadarnhau ID ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad.

Gall eich cais am y ddau fath hyn o etholiad bara am gyfnod amhenodol ar yr amod eich bod yn parhau i adnewyddu eich llofnod bob pum mlynedd. Bydd cais am adnewyddu eich llofnod yn cael ei anfon atoch gan y swyddfa etholiadau ar yr adeg ofynnol.

Ar gyfer etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy'r post ar waith cyn 31 Hydref 2023 - nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Bydd y swyddfa etholiadau yn cysylltu â chi pan fydd angen i chi adnewyddu eich pleidleisiau drwy'r post ar gyfer pob math o etholiad. 

Pryd y bydd y newidiadau yn dod i rym?

  • Disgwylir i'r broses gwneud cais bob tair blynedd i bleidleiswyr drwy'r post sy'n gwneud cais ar gyfer Etholiadau Seneddol ac Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ddechrau o fis Hydref 2023. Ni fydd angen i etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy'r post presennol ar waith cyn i'r newidiadau ddod i rym wneud unrhyw beth tan 31 Ionawr 2026, ond bydd y Tîm Etholiadau yn cysylltu â chi cyn y dyddiad hwn ynghylch y trefniadau pontio.
  • Disgwylir i'r rheolau ynghylch cyfrinachedd a phwy sy'n cael ymdrin â phleidleisiau drwy'r post ar gyfer y mathau uchod o etholiad fod ar waith ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ar 2 Mai 2024 neu ar ôl hynny.
  • Disgwylir ceisiadau pleidleisio absennol ar-lein a gorfod gwneud cais ar wahân ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol o fis Hydref 2023.

 

Newidiadau i bleidleisio drwy ddirprwy

Etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Bydd newidiadau i'r terfyn ar faint o bobl y caiff pleidleisiwr fod yn ddirprwy ar eu cyfer. Ar hyn o bryd caiff person fod yn ddirprwy ar gyfer nifer diderfyn o berthnasau agos a dau etholwr arall. O dan y rheolau newydd ar gyfer y mathau hyn o etholiad, byddai pleidleiswyr yn cael eu cyfyngu i fod yn ddirprwy ar gyfer pedwar o bobl, a dim ond dau ohonynt sy'n cael bod yn etholwyr domestig sy'n byw yn y DU waeth beth fo'u perthynas (neu uchafswm o 4 o bobl, lle mae 2 berson yn byw yn y DU a 2 berson wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw dramor).

Etholiadau'r Senedd ac etholiadau Llywodraeth Leol

Nid oes unrhyw newid i'r rheolau cyfredol h.y., cewch fod yn ddirprwy i ddim mwy na dau etholwr, ac eithrio lle maen nhw'n ŵr neu'n wraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn fam-gu neu'n dad-cu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n ŵyr yr etholwr.

Pryd y bydd y newid hwn yn dod i rym?

Disgwylir y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 23 Hydref.

Yn achos etholwyr sydd â dirprwy wedi'i benodi cyn 31 Hydref 23:

Bydd angen i bob etholwr presennol (domestig a thramor) sydd â threfniant dirprwy ar waith cyn 31 Hydref 2023 wneud cais newydd erbyn 31 Ionawr 2024. Bydd y tîm etholiadau yn cysylltu â chi ac yn rhoi digon o rybudd a chymorth i chi ddiweddaru eich trefniadau.

Cyngor a Democratiaeth