Gwasanaethau Cynllunio - Blaen-gynllunio

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn y Gwasanaeth Blaen-gynllunio yn cael ei defnyddio er mwyn helpu i baratoi a llunio polisi cynllunio megis y Cynllun Datblygu Lleol sy'n cynnwys derbyn sylwadau gan unigolion ynghylch y defnydd o dir.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio (Prynu Gorfodol) 2004 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Eich cyfeiriad a manylion cyswllt eraill
  • Gwerth tir, pan fydd angen i ni asesu ei ddichonoldeb
  • Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r safle, er enghraifft, mynediad, seilwaith ac ati

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Ydyn. I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol wrthych ond mewn rhai achosion rydym hefyd yn ymgynghori â'n cydweithwyr Cynllunio yn y Gwasanaethau Rheoli Datblygu a Rheoli Adeiladu er mwyn edrych ar wybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn ceisiadau Rheoliadau Cynllunio ac Adeiladu.

Rydym hefyd yn cysylltu â Gwasanaethau eraill y Cyngor i gael gwybodaeth sy'n berthnasol mewn perthynas â llunio polisi cynllunio.

Ceir y mathau canlynol o wybodaeth:

  • Enw
  • Eich cyfeiriad a manylion cyswllt eraill
  • Gwerth tir, pan fydd angen i ni asesu ei ddichonoldeb
  • Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r safle, er enghraifft, mynediad, seilwaith ac ati
  • Manylion ariannol mewn perthynas â dichonoldeb safleoedd datblygu, lle maent yn berthnasol i lofnodi cytundebau cyfreithiol o ran talu cyfraniadau ariannol i'r Cyngor.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Pan fyddwch yn gwneud sylwadau ynghylch defnydd tir neu bolisi cynllunio, caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan ac felly gellir cael mynediad iddynt ar-lein. Mae'r data personol rydym yn ei gyhoeddi yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad, gwybodaeth am eich buddiant mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol a'r tir dan sylw.

Mae'n ofynnol i ni, o dan y Ddeddfwriaeth Gynllunio y cyfeiriwyd ati uchod, sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd.

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Fel y nodwyd uchod, rydym yn cyhoeddi data personol sy'n rhan o sylwadau a gyflwynwyd, ar ein gwefan.

Rydym hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth ar ffurf copi caled ar gael i'r cyhoedd fwrw golwg drosti.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn ni'n cadw data personol mewn perthynas â'n gwaith o ran Blaen-gynllunio yn barhaol, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth