Hysbysiadau Cyhoeddus
- Archwilio cyfrifon
- Balot
- Mynwent
- Seremonïau Sifil
- Adolygiad Cymunedol
- Addysg ac ysgolion
- Etholiadau
- Trwyddedu Amgylcheddol
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Tir
- Pryniannau Tir
- Trwydded
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Hysbysiad o swydd
- Parcio
- Cau mangre
- Gwella mangre
- Cau Llwybrau Cyhoeddus
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheolaethau Cŵn)
- Parcio i breswylwyr
- Cau Ffyrdd
- Newidiadau i Derfynau Cyflymder
- Y Pwyllgor Safonau – Penodi Aelod Annibynnol
- Teithio, Ffyrdd a Pharcio
- Llanelli
- Glynhir, Pont-Henri
- Fferm Dyffryn, y Bynea
- Heol Blaenau, Llandybïe
- Heol Y Gât, Pen-Y-Groes
- Caerfyrddin
- Llannon
- Tre Ioan
- Cwmaman
- Ystad Mandinam, Llangadog
- Glanamman
- Heol Pontarddulais, Llanedi
- Heol Cwmfferws I Deras Rhos
- Llanismel
23
Gorchymyn Cydgrynhoi Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu Arbrofol Ar Aros A Mannau Parcio Ar Y Stryd) (Amrywiad Rhif 43) 2024
Cyfeirnod y Ffeil: HMD/HTTR-1854
HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyrddin (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor"), ar yr 16eg o Hydref 2024, wedi gwneud Gorchymyn o dan Adrannau 9 a 10 o, a Pharagraff 27 o Atodlen 9 i, Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd).
Effaith y Gorchymyn hwn yw:
1. Addasu ‘Gorchymyn Cydgrynhoi Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004’ (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”), sy’n darparu ar gyfer cymryd camau gorfodi sifil mewn perthynas â thorri’r gwaharddiadau a'r cyfyngiadau ar aros, drwy osod y cynlluniau rhif cyfatebol sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn Arbrofol uchod yn lle'r cynlluniau sydd ynghlwm wrth y gorchymyn sy'n dynodi Ardaloedd CK217 a CL215, a'r cynlluniau hynny fydd drechaf yn ystod cyfnod y Gorchymyn Arbrofol.
Canlyniad yr addasiad yw:
(a) Gwahardd aros ar unrhyw adeg ar yr ochrau ffyrdd a/neu'r darnau ffyrdd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Hysbysiad hwn, ond yn fwy penodol ar y cynllun sy'n cynnwys y rhif cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig, ar gyfer pob ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1, y dylid darllen y cynllun dywededig ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth;
(b) Gwahardd aros, llwytho a dadlwytho ar unrhyw adeg ar yr ochr ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 2 i'r Hysbysiad hwn, ond yn fwy penodol ar y cynllun sy'n cynnwys y rhif cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig, ar gyfer yr ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1, y dylid darllen y cynllun dywededig ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth; a
(c)
Cyfyngu Llwytho yn Unig i hyd at 20 munud bob awr bob dydd ar yr ochr ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 3 i'r Hysbysiad hwn, ond yn fwy penodol ar y cynllun sy'n cynnwys y rhif cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig, ar gyfer yr ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1, y dylid darllen y cynllun dywededig ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth,
gan gymryd lle’r gwaharddiadau a’r cyfyngiadau presennol (os oes rhai) sydd yn effeithio ar y darnau a'r ochrau ffyrdd a ddangosir ar y cynlluniau sy'n cynnwys y rhifau cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o bob un o'r Atodlenni y cyfeirir atynt uchod.
2. Dirymu:
(a) Gorchymyn Cydgrynhoi Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004;
(b) Gorchymyn Cydgrynhoi Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 5) 2006; a
(c) Gorchymyn Cydgrynhoi Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 36) 2020,
i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cyfyngiadau a ddisgrifir yn fyr yn Atodlenni 4, 5 a 6 i'r Hysbysiad hwn neu'n ymwneud â'r darnau neu'r ochrau ffyrdd y cyfeirir atynt yn fwy penodol yn Atodlenni 1, 2 a 3 ac sy'n ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir neu y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1(a), 1(b) ac 1(c) uchod.
Bydd darpariaethau’r eithriadau arferol a gynhwysir yn y Gorchymyn Cydgrynhoi yn berthnasol i'r ffyrdd y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1(a) i 1(c) uchod. Mae’r rhain yn cynnwys hawl teithwyr i esgyn i gerbyd neu ddisgyn ohono, llwytho a dadlwytho nwyddau, cyflawni gwaith adeiladu a gwaith arall, cyflawni dyletswyddau neu bwerau statudol a galluogi cerbyd i gael petrol, olew, dŵr neu aer o unrhyw garej sydd ger y cyfryw ddarnau o'r ffyrdd y mae'r Gorchymyn yn effeithio arnynt.
Yn ogystal, mae'r Gorchymyn yn cynnwys y consesiynau parcio arferol ar gyfer pobl anabl yn unol â'r Cynllun Bathodynnau Glas.
Bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar y 1af o Dachwedd 2024 a gellir cael golwg ar y Gorchymyn ynghyd â'r cynlluniau sy'n dangos y darnau ffyrdd a/neu'r ochrau ffyrdd yr effeithir arnynt a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud Gorchymyn Arbrofol a'r gorchmynion sy'n cael eu dirymu, yn Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn:
▪ Uned 22, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin, SA31 1GA,
▪ Rhif 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS, a
▪ Rhif 36 Stryd Stepney, Llanelli SA15 3TR
yn ystod yr oriau swyddfa arferol.
Mae’r dogfennau hefyd:
▪ i’w gweld ar wefan y Cyngor drwy fynd i https://www.sirgar/llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/hysbysiadau-cyhoeddus ; neu
▪ ar gael am ddim drwy ysgrifennu at Adain Rheoli Traffig y Cyngor yn Adeilad 2, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ, neu drwy e-bostio ENTrafficManagement@sirgar.gov.uk.
Ar ôl cyfnod o chwe (6) mis, bydd y Cyngor yn ystyried a fydd darpariaethau'r Gorchymyn yn parhau mewn grym am gyfnod amhenodol ai peidio.
Os ydych am wrthwynebu gwneud Gorchymyn parhaol yn unol â thelerau'r Gorchymyn Arbrofol, gofynnir i chi gyflwyno eich rhesymau dros wrthwynebu yn ysgrifenedig i Steven Murphy, Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP erbyn y 16eg o Ebrill 2025.
Gall unrhyw un sy'n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo:
(a) am nad yw o fewn y pwerau a roddwyd gan y Ddeddf; neu
(b) am na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad yn y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, mewn perthynas â'r Gorchymyn,
wneud cais i'r Uchel Lys at y diben hwn o fewn chwe (6) wythnos i'r dyddiad y gwnaed y Gorchymyn.
E-bost: HeMDavies@sirgar.gov.uk
Llinell Uniongyrchol: 01267 224066
Wendy Walters, Prif Weithredwr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
- Math o hysbysiad: Parcio
- Lleoliad: Llanelli
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd -2 (2025-2030)
- Arolwg Troseddau ac Anhrefn
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033 - Ymgynghoriad ar Safleoedd Ychwanegol yn y CDLl Diwygiedig
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033 (Safleoedd Ychwanegol)
- Cyfnewidfa Trafnidiaeth Aml-ddull Llanelli
- Gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed)
- Ymgynghoriad - Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
- Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyhoeddus Ddrafft - Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2025
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri
- Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024
- Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Canllaw Dylunio Tu Blaen Siop Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Effeithlonrwydd Ynni Priodol mewn Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar Gyfer Cynaliadwyedd
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Y Gymraeg
- Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
- Teithio Llesol Caerfyrddin
- Ymgysylltiad Teithio Llesol Llanelli
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
- Polisi Diogelu Corfforaethol Tachwedd 2023
- Strategaeth Ddigidol 2024 -2027
- Strategaeth Moderneiddio Addysg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-24
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
- Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf