Addysg Blynyddoedd Cynnar yn Sir Gaerfyrddin
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Wrth ddarparu gwasanaeth addysg blynyddoedd cynnar, mae'r Cyngor a darparwyr gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn gyfrifol ar y cyd am y data personol a ddefnyddiwn amdanoch chi a'ch plentyn.
O dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data rydym felly yn cael ein hystyried yn ‘gyd-reolwyr data’.
Mae'r Cyngor a darparwyr gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar yn gyfrifol am:
- Brosesu data personol yn gyfreithlon
- Rhoi gwybod i chi at ba ddibenion y maent yn defnyddio eich data personol, megis Hysbysiadau Preifatrwydd
- Diogelu eich gwybodaeth
- Sicrhau y gallwch arfer eich hawliau o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data
Mae casglu gwybodaeth am blant unigol yn hanfodol i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg a'r gwasanaeth a gynigir o'r ansawdd uchaf, yn bwrpasol ac yn ymatebol i anghenion eich plentyn.
Bydd y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi a'ch plentyn yn y cais ac yn ystod y cyfnod gwasanaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol yn unig:
- Prosesu'ch cais am gyllid blynyddoedd cynnar ac i ddarparu cyllid
- Monitro safonau darpariaeth a chynnydd dysgu plant
- Nodi meysydd y mae angen eu gwella ledled y Sir, er enghraifft, llafaredd, rhifedd, gwybodaeth gorfforol i fwydo strategaethau gwella
- Cynllunio'n strategol i sicrhau bod cefnogaeth berthnasol yn cael ei darparu i bob lleoliad yn unol ag anghenion plant unigol
- Mesur effeithiolrwydd y ddarpariaeth a'r gefnogaeth a ddarperir gan y Cyngor
- Dylunio rhaglen hyfforddi briodol yn unol ag anghenion darparwyr gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a'u plant
- Sicrhau bod cyllid cyhoeddus a grantiau yn cael eu defnyddio'n bwrpasol yn ôl yr angen e.e. anghenion llythrennedd
- Nodi a darparu ymyrraeth gynnar i gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Gwella a hwyluso cyfathrebu yn ystod cyfnodau pontio.
Mae Adran 118(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 am i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth ddigonol o ran addysg feithrin ran-amser ac amser llawn i blant yn eu hardal nad ydynt wedi dod i oedran ysgol gorfodol. Felly, y sail gyfreithlon ar gyfer casglu a defnyddio'r data personol hwn yw bod ei angen arnom i arfer ein hawdurdod i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar ran-amser i blant.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:
Amdanoch chi:
- Eich cyfeiriad e-bost
- Eich teitl, eich enw cyntaf a'ch cyfenw
- Eich cyfeiriad cartref
Amdanoch plentyn:
- Enw eich plentyn
- Cyfeiriad eich plentyn
- Dyddiad geni eich plentyn
- Manylion y lleoliad a ddewiswyd a nifer yr oriau o gyllid y gwnaed cais amdanynt
- Manylion yr ysgol y gwnaed cais iddi am addysg amser llawn
- Iaith eich cartref
- Cofnod presenoldeb eich plentyn
- Cyrhaeddiad dysgu eich plentyn
Rydym hefyd yn casglu manylion am anghenion meddygol neu anghenion dysgu pan fo angen.
Rydym yn defnyddio'r math hwn o ddata personol i arfer ein rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati uchod.
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
Rydym fel arfer yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi.
Fodd bynnag, mae gwasanaeth addysg blynyddoedd cynnar yn derbyn rhywfaint o wybodaeth gan y darparwr gwasanaeth blynyddoedd cynnar, yn benodol data personol am lesiant eich plentyn, ei bresenoldeb a'r cynnydd mae'n ei wneud.
Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio rhai manylion o'n cronfa ddata ysgolion (Canolfan Athrawon) yr ydych wedi'u darparu o'r blaen yn eich cais am addysg amser llawn.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym hefyd yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth. Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol. Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu data personol dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny ac ym mhob achos, rydym yn darparu cyn lleied o ddata ag sydd ei angen.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon â'r lleoliad nas cynhelir yr ydych wedi gwneud cais iddo er mwyn prosesu'r ddarpariaeth cyllid. Byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r ysgol rydych chi wedi gwneud cais iddi am addysg amser llawn.
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â Llywodraeth Cymru ar lefel ystadegol pan fo angen.
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw'r data personol am 18 mlynedd o ddyddiad geni eich plentyn.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Cyfnewidfa Trafnidiaeth Aml-ddull Llanelli
- Gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed)
- Ymgynghoriad - Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
- Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyhoeddus Ddrafft - Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2025
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri
- Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024
- Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Canllaw Dylunio Tu Blaen Siop Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Effeithlonrwydd Ynni Priodol mewn Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar Gyfer Cynaliadwyedd
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Y Gymraeg
- Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
- Teithio Llesol Caerfyrddin
- Ymgysylltiad Teithio Llesol Llanelli
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024 Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Terfynau Cyflymder 20mya
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
- Polisi Diogelu Corfforaethol Tachwedd 2023
- Strategaeth Ddigidol 2024 -2027
- Strategaeth Moderneiddio Addysg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-24
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Hysbysiad o Swydd
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
- Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf