Cymorth Cyflogadwyedd
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:
- Nodi'r Rhaglen Gyflogadwyedd fwyaf addas ar eich cyfer;
- Cyflawni'r gwaith gweinyddol o ran eich cynnwys mewn rhaglen (yn unol â chanllawiau monitro Llywodraeth Cymru)
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw bod angen inni wneud hyn i arfer ein hawdurdod i ddarparu'r gwasanaeth hwn ac am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, a hynny i'n galluogi i gyfrannu at yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:
- Eich enw a'ch manylion cyswllt
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Dyddiad geni
- Gwybodaeth am eich cyflogaeth flaenorol a'ch diweithdra
- Gwybodaeth am y budd-daliadau rydych yn eu cael
- Eich aelwyd, gan gynnwys a oes gennych blant neu a ydych yn gofalu am rywun
- A ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn gyn-filwr neu'n aelod presennol o Luoedd Arfog y DU
- Gwybodaeth am gollfarnau troseddol. Rhaid inni wybod hyn er mwyn sicrhau ein bod yn eich rhoi yn y rhaglen gymorth briodol.
- Gwybodaeth am eich iechyd corfforol neu feddyliol. Mae hyn yn ein helpu i nodi'r math gorau o gymorth ichi hefyd.
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol gennych chi yn unig, heblaw bod gennych gollfarn droseddol. Yn yr achos hwnnw, rydym yn gofyn i'r Gwasanaeth Prawf am ragor o wybodaeth, lle bo hynny'n briodol, a phan fydd ei hangen arnom.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein negeseuon e-bost i gyd, a hynny o dan delerau cytundeb llym sy'n diogelu eich gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond mewn gwledydd yn yr UE sy'n destun y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Pan fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth, rydym yn rhannu'r lleiafswm sy'n ofynnol mewn perthynas â'r rhaglen yr ydych wedi cael eich cyfeirio ati. Caiff y data personol hwn ei rannu â'r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Llywodraeth Cymru, at ddibenion monitro
- Y Gwasanaeth Prawf, pan fydd angen inni gysylltu â hwy i gael rhagor o wybodaeth
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd ag yr ydych yn cymryd rhan mewn rhaglen ac am 10 mlynedd ar ôl hynny.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
- Cyfansoddiad y Cyngor
- Cadeirydd 2020 - 21
- Swyddfa'r Crwner
- Arglwydd Raglaw
- Blog Arweinydd
- Blog Cadeirydd y Cyngor
Cynghorwyr, ACau, ASau a ASEau
- Eich Cynghorydd Sir
- Sut mae bod yn Gynghorydd
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Aelodau Senedd Ewrop
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Bwrdd Gweithredol
- Penderfyniadau swyddogion
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
- Cyfarfodydd byw a rhithwir y Cyngor a rhai sydd i ddod
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2019-20
Canllawiau Brexit
Hysbysiadau cyhoeddus
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2020
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru'r Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Etholiad Senedd Ewrop 2019
- Etholiadau Lleol 2017
- Etholiad Seneddol 2017
Diogelu Data
Rhyddid Gwybodaeth
Ymchwil ac Ystadegau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth