Cynllunio - Gorfodi

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwilio i gwynion ynghylch achosion honedig o dorri deddfwriaeth gynllunio a chymryd camau gorfodi pan fydd angen.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd).  

Os byddwch yn gwneud cwyn i ni a heb fod yn darparu eich enw a'ch manylion cyswllt, ni fyddwn yn gallu cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cwyn na rhoi gwybod ichi am y canlyniad.

Pan fyddwch yn destun cwyn am orfodaeth ac y byddwn yn cyflwyno Hysbysiad Torri Amodau Cynllunio, mae'n ofyniad cyfreithiol i ddarparu'r wybodaeth rydym yn gofyn amdani a gallai methu â rhoi'r wybodaeth honno i ni arwain at gymryd camau pellach, gan gynnwys achos llys a dirwy.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Pan fyddwch yn gwneud cwyn i ni, rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt eraill
  • Dyddiad Geni
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Rhif Cofrestru Cerbyd
  • Gwybodaeth ynghylch perchenogaeth tir a'i ddefnydd
  • Gwybodaeth ynghylch pobl sy'n byw ar y tir/yn yr eiddo neu'n eu defnyddio
  • Gwybodaeth Ariannol
  • Gwybodaeth am eich iechyd, os byddwch yn darparu hyn wrth ddelio ag achos

Os bydd achos yn arwain at gollfarn droseddol am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi, yna byddwn ni hefyd yn cadw cofnod o'r gollfarn honno. Rydym yn gwneud hyn oherwydd ei bod yn angenrheidiol o ran ymarfer ein swyddogaeth o dan y ddeddfwriaeth gynllunio y cyfeiriwyd ati uchod ac oherwydd bod budd sylweddol i'r cyhoedd wrth wneud hynny.

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu'r wybodaeth yn uniongyrchol wrthych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Y Gofrestrfa Tir
  • Gwasanaeth y Dreth Gyngor y Cyngor
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • Tŷ'r Cwmnïau
  • Cofrestru Etholiadol
  • Gwasanaethau/Adrannau eraill y Cyngor
  • Yr Heddlu
  • Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA)

Ceir y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth
  • Eich Anghenion Tai
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Rhif Cofrestru Cerbyd

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu cyn lleied o ddata personol ag sydd ei angen a dim ond lle mae'n angenrheidiol gwneud hynny. Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r canlynol:

  • Gwasanaeth y Dreth Gyngor y Cyngor pan fydd angen i ni gael gwybod enw person sy'n byw mewn eiddo penodol
  • Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor, ar gyfer cael cyngor ynghylch achosion
  • Gwasanaethau/Adrannau eraill y Cyngor lle bo'n berthnasol
  • Arolygiaeth Gynllunio

Os byddwch yn gwneud cwyn am fater sy'n ymwneud â gorfodi rheolau cynllunio, byddwn ni'n cadw eich hunaniaeth yn gyfrinachol oni bai bod yn rhaid i chi roi tystiolaeth mewn unrhyw achosion llys.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth am 10 mlynedd ar ôl diwedd yr achos gorfodi rheolau cynllunio.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth