Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio i gyflawni'r canlynol:

  • Darparu ystod o wasanaethau cymorth ieuenctid yn seiliedig ar anghenion a nodwyd
  • Paratoi ystod o asesiadau ac adroddiadau
  • Diogelu eich hun a phobl eraill
  • Diogelu'r cyhoedd

Nid ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i rannu neu ddefnyddio gwybodaeth amdanoch at y dibenion hyn.

Mae hyn oherwydd bod gennym sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol heb ganiatâd, gan fod yn rhaid i ni gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Drwy ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym hefyd yn cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am eich iechyd a data personol (sensitif) categori arbennig arall oherwydd bod angen i ni arfer swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod. Rydym yn prosesu gwybodaeth ynghylch unrhyw gollfarnau troseddol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd a hefyd ar sail y ddeddfwriaeth hon.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Eich manylion cyswllt
  • Eich dewis iaith
  • Manylion cyflogaeth ac addysg, gan gynnwys anghenion addysgol arbennig
  • Gwybodaeth gyswllt ar gyfer eich rhieni neu ofalwyr
  • Cofnodion presenoldeb/cymryd rhan mewn gweithgareddau/digwyddiadau ieuenctid
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Eich Anghenion Tai
  • Gwybodaeth feddygol ac iechyd perthnasol
  • Rhywedd
  • Eich Hil neu Gefndir Ethnig
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu eich cyfeiriadedd rhywiol

Gwybodaeth am unrhyw gollfarnau troseddol a throseddau.

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu'r wybodaeth yn uniongyrchol gennych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Adrannau a gwasanaethau eraill y Cyngor sy'n ymwneud â chi
  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Ysgolion
  • Y GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol
  • Gyrfa Cymru
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau/Darparwyr budd-daliadau
  • Darparwyr gwaith a hyfforddiant
  • Cymdeithasau Tai
  • Y Llysoedd
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Carchardai a Sefydliadau Troseddwyr Ifanc EM
  • Cartrefi Plant Diogel
  • Trafod a Sianelu
  • Sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau wedi'u targedu i blant, pobl ifanc a theuluoedd

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth.  Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu data personol dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny ac ym mhob achos, rydym yn darparu cyn lleied o ddata ag sydd ei angen.

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â'r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Adrannau eraill y Cyngor, gan gynnwys timau Addysg, Tai a Gwaith Cymdeithasol
  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Y GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Y Llysoedd
  • Carchardai a Sefydliadau Troseddwyr Ifanc EM
  • Cartrefi Plant Diogel
  • Darparwyr tai
  • Darparwyr gwasanaeth cymorth tai
  • Ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
  • Colegau Addysg Bellach
  • Cyflogwyr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith
  • Sefydliadau trydydd sector eraill sy'n cynnig gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Fel arfer, byddem yn cadw eich gwybodaeth am 25 mlynedd ar ôl eich dyddiad geni. Mae hyn yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

Fodd bynnag, oherwydd yr ymchwiliad annibynnol cenedlaethol parhaus i hanes camfanteisio'n rhywiol ar blant, ni chaniateir i ni ddinistrio cofnodion gofal cymdeithasol unrhyw blentyn ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth rydym yn ei defnyddio mewn perthynas â Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth