Gwasanaeth Sector Preifat (Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel)

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin data personol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'r un yw eu hystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data. 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch at y dibenion canlynol:

  • Delio â chais am grant neu fenthyciad
  • Rheoli Cwynion am Eiddo Gwag, Safonau Tai a/neu Effeithlonrwydd Ynni
  • Helpu ni i ddelio â'ch ymholiadau 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw bod angen i ni wneud hynny i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol. 

 

Mae gan y gwasanaeth rwymedigaethau statudol mewn perthynas â:

  • Gorfodi Safonau Tai
  • Dyletswyddau trwyddedu
  • Cynorthwyo Landlordiaid y Sector Rhent Preifat i fodloni gofynion deddfwriaethol 
  • Gwaith gorfodi i fynd i'r afael ag Eiddo Gwag yn Sir Gaerfyrddin 

 

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys y canlynol, ond nid y canlynol yn unig: 

  • Deddf Tai 2004
  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
  • Deddf Gwarchod rhag Dadfeddiannu 1977 
  • Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

 

Mae gennym hefyd rôl anstatudol wrth weinyddu cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni i helpu i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am eich iechyd, data personol (sensitif) categori arbennig arall, a gwybodaeth am gollfarnau troseddol, am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod. 

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw 
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd neu bennu rhywedd
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Eich Anghenion Tai
  • Delweddau/Ffotograffau

 

Lle bo'n berthnasol, rydym yn defnyddio'r mathau canlynol o ddata personol sensitif (gelwir yn data categori arbennig):

  • Gwybodaeth am eich Iechyd neu Iechyd pobl eraill ar eich aelwyd 
  • Hil neu darddiad ethnig 
  • Barn wleidyddol
  • Cred Grefyddol neu Athronyddol
  • Aelodaeth o undeb llafur
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu'ch cyfeiriadedd rhywiol
  • Data genetig
  • Data Biometrig
  • Collfarnau neu droseddau 

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi o'r ffynonellau canlynol: 

  • Timau Iechyd Cyhoeddus/Amgylcheddol y Cyngor
  • Timau Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor
  • Gwasanaethau eraill y Cyngor, gan gynnwys Lle a Chynaliadwyedd (Cynllunio) a'r Dreth Gyngor  
  • Hwb Tai
  • Safonau Masnach
  • Landlordiaid preifat

 

Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol eraill a Gwasanaethau Cyhoeddus eraill megis:

  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Heddlu Dyfed-Powys, lle bo'n briodol 
  • Asiantaethau allanol perthnasol eraill, lle'r ydym yn gweithio mewn partneriaeth i naill ai gyflawni cynllun, neu lle mae pryder am iechyd a diogelwch

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth.  Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn darparu cyn lleied o wybodaeth ag sy'n angenrheidiol ym mhob achos i'r canlynol:

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw.

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am o leiaf 6 blynedd.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth