Gwasanaeth Tanysgrifio Urddas Mislif

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Mae Gwasanaeth Tanysgrifio Urddas Mislif Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei ariannu gan Grant Ysgolion a Chymunedau Urddas Mislif Llywodraeth Cymru. Y nod yw treialu gwasanaeth newydd i ddarparu cynnyrch mislif am ddim i gartrefi disgyblion ysgol uwchradd Blwyddyn 7 ac 8 ledled y Sir. Bydd angen cynnal gwiriadau cymhwysedd i sicrhau bod y cymorth a gynigir drwy'r cynllun yn cyrraedd y bobl gywir. Mae'r Cyngor wedi partneru â chwmni allanol (Hey Girls) i dreialu gwasanaeth tanysgrifio o gynhyrchion mislif am ddim sy'n cynnig y ffordd fwyaf syml a diogel, o'r archebu hyd at y danfon i'ch cartref. I hwyluso archebion, bydd gan Hey Girls dudalen pecyn cartref pwrpasol ar eu gwefan hey girls | Award Winning Period Product Social Enterprise lle gall rhieni a gwarcheidwaid sy'n dymuno cymryd rhan yn y prosiect gofrestru a nodi eu manylion ar gyfer y tanysgrifiad.

Felly fydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch ond yn cael ei defnyddio i ddanfon cynhyrchion mislif am ddim i'ch cartref. 

Y sail gyfreithiol dros brosesu'r wybodaeth hon yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd, o dan Adran 111 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. 

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

·       Enw eich plentyn

·       Oedran eich plentyn

·       Cyfeiriad cartref

·       Ysgol eich plentyn

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig.  Nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch chi o unrhyw ffynonellau eraill. 

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth.  Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Trwy wefan Hey Girls, cesglir data personol pan fyddwch yn:

·       creu cyfrif ar y wefan

·       gwneud archeb drwy'r wefan

·       llenwi ffurflenni ar ein gwefan, er enghraifft i adael adborth neu ymateb i arolwg

·       Dim ond rhwng Hey Girls a'r Cyngor y rhennir data personol, a hynny at ddibenion gwirio cymhwysedd a monitro'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

·       Pan fo'r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi'r wybodaeth

·       Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd

·       Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Bydd y data personol yn cael ei gadw tan i'r prosiect ddod i ben yn unig.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd