Gwasanaethau Bysiau ar alw
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio i'ch cofrestru chi fel defnyddiwr Bwcabus a/neu Galw a Theithio ac i ddarparu'r gwasanaethau bysiau ar alw hyn i chi.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn ymarfer ein hawdurdod i ddarparu gwasanaeth yn unol â Deddf Trafnidiaeth 1985.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- P'un a ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn a'ch anghenion symudedd
- P'un a oes gennych docyn teithio rhatach
Yn ogystal, defnyddir systemau teledu cylch cyfyng ar ein bysiau, sy'n cofnodi delweddau er mwyn cadw teithwyr a gyrwyr yn ddiogel.
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaethau hyn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond mewn rhai achosion, rydym yn derbyn cofrestriadau o ganolfan gyswllt Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r mathau o wybodaeth a nodir uchod i ni pan fyddant yn derbyn galwadau gan gwsmeriaid sy'n dymuno cofrestru.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r canlynol:
Ar gyfer teithwyr Galw a Theithio:
- Y cwmnïau bysiau sy'n darparu'r gwasanaeth
Ar gyfer teithwyr Bwcabus:
- Y cwmnïau bysiau sy'n darparu'r gwasanaeth
- Awdurdodau Lleol Eraill sydd ynghlwm wrth ddarparu'r gwasanaeth
- Llywodraeth Cymru
- Prifysgol De Cymru
- Canolfan Alwadau Traveline Cymru
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am gyfnod o 6 blynedd yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Cyfnewidfa Trafnidiaeth Aml-ddull Llanelli
- Gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed)
- Ymgynghoriad - Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
- Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyhoeddus Ddrafft - Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2025
- Gwelliannau Teithio Llesol Llanymddyfri
- Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024
- Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Canllaw Dylunio Tu Blaen Siop Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Effeithlonrwydd Ynni Priodol mewn Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar Gyfer Cynaliadwyedd
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Methodoleg ar gyfer Pennu Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur yn Sir Gaerfyrddin
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored
- Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Y Gymraeg
- Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
- Teithio Llesol Caerfyrddin
- Ymgysylltiad Teithio Llesol Llanelli
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024 Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Terfynau Cyflymder 20mya
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
- Polisi Diogelu Corfforaethol Tachwedd 2023
- Strategaeth Ddigidol 2024 -2027
- Strategaeth Moderneiddio Addysg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-24
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Hysbysiad o Swydd
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
- Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf