Hawlenni Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Cyfleusterau wedi'u darparu er mwyn cael gwared o wastraff tŷ cartref preswylwyr Sir Gaerfyrddin yw Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
I wneud yn siŵr mai gwastraff y cartref yn unig sy'n cael ei waredu yn ein canolfannau ac i rwystro defnydd masnachol, rydym yn darparu Hawlenni Ailgylchu Gwastraff y Cartref i breswylwyr sy'n defnyddio mathau penodol o gerbydau, megis faniau bach/canolig neu dryciau agored bach ag un cab.
Mae'r hawlenni hyn yn cael eu gweinyddu ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a CWM Environmental. Rydym angen casglu a defnyddio data personol cyn eu gweinyddu.
Mae trin eich gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'r un yw eu hystyr.
Er mwyn sicrhau ein bod yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion y ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych yn cael ei defnyddio ar gyfer eich darparu â Hawlen Ailgylchu Gwastraff y Cartref, a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio ein cyfleusterau yn Nhrostre, Nant-y-caws, Wernddu a Hendy-gwyn ar Daf.
Mae'r Cyngor a CWM Environmental Ltd yn rheolwyr ar y cyd o'r data personol a ddefnyddir ar gyfer darparu hawlenni.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn ymarfer ein hawdurdod i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn unol â Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu hawlen:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn symudol a rhif ffôn cartref
- Cyfeiriad E-bost
Rydym yn gofyn hefyd am eich dogfen gofrestru V5C ac un ddogfen arall sy'n profi eich bod yn breswylydd yn Sir Gaerfyrddin. Pan fyddwn wedi prosesu eich cais am hawlen, byddwn yn dileu'r dogfennau hyn.
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol oddi wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw un arall fel arfer.
Fodd bynnag, mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 18 mis o ddyddiad eich cais am hawlen.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2021-22
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth