Marchnata a'r cyfryngau
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Mae'r Tîm Marchnata a'r Cyfryngau yn defnyddio data personol am ystod eang o ddibenion, sydd o bosibl heb fod yn gwbl amlwg o'n henw:
- Eich helpu chi i gael mynediad i wasanaethau'r Cyngor
Rydym yn defnyddio data personol pan fyddwch yn gwneud ymholiadau ac yn gofyn i ni am help i gael mynediad i wasanaethau eraill y Cyngor. Rydym yn darparu'r gwasanaeth hwn mewn sawl ffordd:- Dros y ffôn, i'n Canolfan Gyswllt
- Dros e-bost
- Drwy ein gwefannau
- Drwy ein cyfryngau cymdeithasol
- E-newyddlenni'r Cyngor
- Pan fyddwch yn ymweld â'n Hwb, ein Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid, ein Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid a'r desgiau yn ein derbynfeydd
- Yn ogystal, rydym yn casglu data personol wrthych i greu cyfrif personol er mwyn ichi allu rheoli rhai o Wasanaethau'r Cyngor drwy Fy Nghyfrif.
- Eich helpu chi i ddod o hyd i wasanaethau a chymorth er mwyn datblygu sgiliau a dod o hyd i gyfleoedd swyddi drwy'r Hwb
- Helpu i hyrwyddo eich gwasanaethau a'ch cyfleusterau i dwristiaid sy'n ymweld â Sir Gaerfyrddin
- Ffilmio a thynnu ffotograffau er mwyn hyrwyddo Sir Gaerfyrddin a Gwasanaethau’r Cyngor.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn ymarfer ein his-bwerau o dan Adran 111 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Pan fyddwch chi eisiau i ni wneud hyn, byddwn ni hefyd yn anfon atoch:
- Newyddlenni ar e-bost atoch i gefnogi busnesau twristiaeth
- Negeseuon testun SMS
Rydym yn cyfathrebu â chi yn y ffordd hon yn seiliedig ar eich caniatâd a gallwch dynnu hynny yn ôl ar unrhyw adeg.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn eich helpu i gael mynediad i wasanaethau'r Cyngor:
- Enw
- Cyfeiriad a chyfeiriadau blaenorol
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Eich Teulu
- Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
- Delweddau/Ffotograffau
- Eich Amgylchiadau Ariannol
- Prawf Adnabod a Rhif Yswiriant Gwladol
- Gwybodaeth am eich iechyd os yw'n berthnasol i'ch ymholiad
Er mwyn darparu cymorth ichi o ran dod o hyd i swydd, rydym yn gofyn ichi am y wybodaeth ganlynol:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Eich Teulu
- Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
- Eich Amgylchiadau Ariannol
- Manylion Cyflogaeth ac Addysg
- Delweddau/Ffotograffau
Yn ogystal, mae angen inni wybod os oes gennych unrhyw faterion iechyd, a fyddai'n effeithio ar eich opsiynau gwaith ac er mwyn galluogi darpar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer.
Yn ogystal, mae'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru ein bod yn casglu ychydig o wybodaeth am eich hil neu gefndir ethnig at ddibenion monitro cyfleoedd cyfartal, ond ni chaiff y wybodaeth hon ei rhannu ag unrhyw sefydliad arall.
Byddwn ni'n gofyn ichi a oes gennych gollfarn droseddol os ydych chi'n chwilio am gyflogaeth mewn galwedigaethau penodol, ond dim ond os yw'n berthnasol. Nid ydym yn cofnodi manylion y gollfarn, dim ond os oes gennych un ai peidio.
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol am eich gwasanaeth er mwyn helpu i hyrwyddo eich busnes i dwristiaid:
- Enw
- Cyfeiriad
- E-bost
- Delweddau/Ffotograffau
- Gwybodaeth am eich llety, eich atyniad a'ch/neu'ch digwydd
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU oni bai am ddelweddau sydd wedi'u cynnwys mewn cyhoeddiadau a fformatau digidol.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r isod, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Darperir cyn lleied o ddata personol ag sydd ei angen a dim ond lle mae'n angenrheidiol gwneud hynny.
- Y gwasanaethau perthnasol yn y Cyngor rydych yn cysylltu â ni amdanynt
- Sefydliadau allanol sy'n darparu cymorth a llesiant
- Darparwyr Hyfforddiant
- Partneriaid yr Awdurdod Lleol
- Darparwyr Gwasanaeth dan Gontract
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth dra eich bod yn gwsmer ac am gyfnod o 2 flynedd ar ôl eich cysylltiad diwethaf â ni, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024 Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Terfynau Cyflymder 20mya
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Gweithredu dros yr Hinsawdd Sir Gâr
- Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?
- Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd
- Prosiect Refit:Cymru
- Grant Gwres Carbon Isel
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth