Mynediad i Gefn Gwlad

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion:

  • Cynnal y Map a'r Datganiad Diffiniol o ran Hawliau Tramwy Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin.
  • Ymdrin â cheisiadau i addasu'r Map a'r Datganiad Diffiniol o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Prosesu ceisiadau am orchmynion llwybrau cyhoeddus o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Ymdrin â cheisiadau o dan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
  • Mynnu ac amddiffyn hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio a mwynhau Hawliau Tramwy Cyhoeddus a'u cynnal o dan Ddeddf Priffyrdd 1980

Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arno ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw bod angen i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth uchod.  Rydym hefyd yn prosesu data personol i gyflawni tasgau penodol er budd y cyhoedd, fel y nodir yn y ddeddfwriaeth.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt
  • Manylion banc/talu pan fydd arnom angen prosesu taliadau ar gyfer chwiliadau a gorchmynion
  • Delweddau/ffotograffau o'r tir, yr eiddo a defnyddwyr Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  • Teitl y Gofrestrfa Tir a dogfennau eraill o ran perchnogaeth eiddo
  • Gwybodaeth am eich hawliau mynediad/hawddfreintiau preifat
  • Tystiolaeth mewn perthynas â'ch defnydd o Hawliau Tramwy Cyhoeddus

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu'r wybodaeth yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Adain y Dreth Gyngor yn y Cyngor, i gael manylion cyswllt pan fydd arnom eu hangen
  • Y Gofrestr Etholiadol
  • Y Gofrestrfa Tir
  • Aelodau eraill y cyhoedd pan fyddant yn cyflwyno sylwadau i ni

Ceir y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt
  • Delweddau/ffotograffau o'r tir, yr eiddo a defnyddwyr Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  • Teitl y Gofrestrfa Tir a dogfennau eraill o ran perchnogaeth eiddo
  • Gwybodaeth am eich hawliau mynediad/hawddfreintiau preifat
  • Tystiolaeth mewn perthynas â'ch defnydd o Hawliau Tramwy Cyhoeddus

 

 

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym ond yn rhannu data personol pan fo angen gwneud hynny ac rydym yn darparu'r isafswm sy'n ofynnol ym mhob achos.  Rydym yn rhannu eich gwybodaeth â'r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Yr Arolygiaeth Gynllunio, pan fyddwn yn cael gwrthwynebiadau i orchmynion
  • Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol eraill, megis pan fyddwn yn ymdrin â Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy'n croesi ffiniau Sirol
  • Adain y Dreth Gyngor yn y Cyngor, pan fydd arnom angen gwneud ymholiadau, fel yr uchod
  • Ymgyngoreion statudol ac aelodau o'r cyhoedd, pan gyhoeddir Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus/Gorchmynion Addasu yn unol â'r gofynion statudol perthnasol
  • Pan fo camau gorfodi yn arwain at achosion llys, bydd data personol ynghylch yr unigolion dan sylw yn cael eu clywed yn gyhoeddus

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y mae'n parhau'n berthnasol mewn perthynas â'r Hawl Dramwy Gyhoeddus dan sylw. Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o wybodaeth yn cael ei chyfeirio at Wasanaeth Archifau'r Sir.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth