Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/11/2023
Yn unol â Rheoliadau Adolygu Dosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) 2006, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal adolygiad o bob dosbarth pleidleisio a man pleidleisio yn etholaethau seneddol y sir gan ddechrau ym mis Hydref 2023.
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio bob pum mlynedd. Mae'r adolygiad yn ceisio sicrhau bod gan bob etholwr gyfleusterau rhesymol ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau sy'n ymarferol o dan yr amgylchiadau a chyn belled ag y bo'n rhesymol ac ymarferol mae'n ceisio sicrhau bod pob man pleidleisio yn hygyrch i etholwyr anabl.
Mae’r adolygiad yn gyfle i etholwyr, grwpiau cymunedol ac unrhyw bersonau â diddordeb yn Sir Gaerfyrddin fynegi eu barn ar y mannau pleidleisio, y dosbarthau a’r gorsafoedd presennol, ac awgrymu opsiynau eraill i’w hystyried.
Diffiniadau
Man pleidleisio yw’r ardal y bydd y Swyddog Canlyniadau yn dynodi gorsaf bleidleisio ynddi. Dylid dynodi'r man pleidleisio fel bod yr orsaf bleidleisio o fewn cyrraedd rhwydd i bob etholwr o bob rhan o'r dosbarth pleidleisio.
Ardal ddaearyddol yw dosbarth pleidleisio a grëwyd gan yr isadran o etholaeth Seneddol at ddibenion Etholiad Seneddol y DU. Gorsaf bleidleisio yw'r ystafell neu'r ardal o fewn y man pleidleisio lle cynhelir y pleidleisio.
Gorsaf bleidleisio yw'r man ffisegol y cynhelir y pleidleisio ynddo. Y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) sy'n penderfynu ar leoliad y gorsafoedd pleidleisio.
Fel rhan o'r broses adolygu, mae'n ofynnol i ni wneud y canlynol:
- Ceisio sicrhau bod gan yr holl etholwyr yn yr etholaeth gyfleusterau mor rhesymol i bleidleisio ag sydd yn ymarferol bosibl yn yr amgylchiadau.
- Ceisio sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ac ymarferol, bod y mannau pleidleisio a'r gorsafoedd yn hygyrch i bobl ag anableddau.
- Wrth ystyried neu adolygu dynodiad man pleidleisio a gorsaf, mae angen ystyried anghenion hygyrchedd pobl anabl.
Camau ar gyfer yr adolygiad
- Byddwn yn rhoi rhybudd o gychwyn ffurfiol yr adolygiad.
- Byddwn yn cyhoeddi'r sylwadau gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar gyfer pob etholaeth yn Sir Gaerfyrddin.
- Bydd cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ar 12 Hydref 2023 ac yn dod i ben ar 9 Tachwedd 2023.
- Byddwn ni'n ystyried y sylwadau sydd wedi dod i law wrth i ni wneud yr argymhellion terfynol.
- Bydd yr argymhellion terfynol yn cael eu hystyried gan y cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr 2024.
Llinell Amser ar gyfer yr adolygiad
- 12 Hydref - Hysbysiad ffurfiol o'r adolygiad
- 12 Hydref - Cyhoeddi sylwadau’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
- 12 Hydref - Dechrau cyfnod ymgynghori cyhoeddus
- 9 Tachwedd - Diwedd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus
- 27 Tachwedd - Rhag-gyfarfod y Cabinet yn ystyried y cynigion drafft
- 24 Ionawr - Y Cyngor Llawn yn ystyried y cynigion terfynol
- 25 Ionawr-Dechrau cyfnod ymgynghori cyhoeddus
- 22 Chwefror - Diwedd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus
- 18 Mawrth-Rhag-gyfarfod y Cabinet yn ystyried y cynigion terfynol
- 10 Ebrill - Y Cyngor Llawn yn ystyried y cynigion terfynol
Trefniadau Presennol/Sylwadau'r Swyddog Canlyniadau Gweithredol
Sylwadau'r Swyddog Canlyniadau Gewithredol
Gwneud sylwadau ar yr adolygiad
Os ydych yn fodlon â'r trefniadau presennol, rhowch wybod inni.
Os nad ydych yn fodlon, byddem yn ddiolchgar am eich sylwadau a byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn gwybod a oes safle mwy addas y gallem ei ddefnyddio.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwybod a oes unrhyw faterion penodol mewn perthynas â mynediad i'n gorsafoedd pleidleisio.
Fe'ch gwahoddir i gwblhau'r holiadur canlynol:
NEU gallwch e-bostio eich ymateb ysgrifenedig i: CAelectoralServices@sirgar.gov.uk tan 9 Tachwedd 2023.
Fel arall, gallwch bostio unrhyw sylwadau i: Y Gwasanaethau Etholiadol, Bloc 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth