Prawf Adnabod Pleidleisiwr

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Deddf Etholiadau 2022- Newidiadau i'r ffordd rydym yn pleidleisio mewn etholiadau penodol a'r hyn y mae angen i chi ei wybod

Newidiadau i bleidleisio mewn etholiadau

Mae’r llywodraeth ganolog yn gwneud newidiadau i etholiadau'r DU a'r ffordd rydym yn pleidleisio. Bydd deddf newydd o'r enw'r Ddeddf Etholiadau yn effeithio ar yr etholiadau canlynol o fis Mai 2023: 

  • Eich Aelod Seneddol (AS)
  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed

**Nid yw'n effeithio ar etholiadau'r Senedd, cynghorau lleol a chynghorau tref/cymuned yng Nghymru gan mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am yr etholiadau hyn.

Adnabod Pleidleisiwr (Prawf Adnabod)

Yn ôl y gyfraith, bydd yn rhaid i chi ddangos prawf adnabod sy'n cynnwys llun pan fyddwch am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn etholiad Seneddol neu etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Gallai fod yn brawf adnabod sy'n cynnwys llun ac sydd wedi'i gymeradwyo, megis pasbort. Caiff prawf adnabod sydd wedi dod i ben ei dderbyn os yw'r llun yn dal i edrych yn debyg i chi.

Dyma'r mathau o brawf adnabod a ddefnyddir fwyaf: 

  • Pasbort a gyflwynwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad
  • Trwydded yrru â llun a gyflwynwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad
  • Cerdyn adnabod â llun a gyflwynwyd gan Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) 
  • Cerdyn adnabod sy'n dangos hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
  • Bathodyn Glas
  • Pàs Bws Person Hŷn
  • Pàs Bws Person Anabl
  • Cerdyn Oyster 60+

Dim ond dogfennau gwreiddiol fydd yn cael eu derbyn; ni fydd lluniau neu gopïau wedi'u sganio yn cael eu derbyn. Fodd bynnag, os yw eich prawf adnabod sy’n cynnwys llun wedi dod i ben, caiff ei dderbyn ar yr amod bod y llun yn dal i edrych yn debyg i chi.

Os nad oes gennych brawf adnabod sydd wedi’i gymeradwyo, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr' am ddim - sydd weithiau'n cael ei galw'n 'Gerdyn Pleidleisiwr' neu'n 'Ddogfen Adnabod Etholiadol'. Bydd modd i bleidleiswyr wneud cais ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy wefan GOV.UK newydd. Bydd ffurflen gais bapur a luniwyd gan y Comisiwn Etholiadol, sy'n caniatáu i etholwyr wneud eu cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar bapur a'i hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, hefyd ar gael a bydd y Tîm Etholiadol yn barod i gynorthwyo'r rhai sy'n dod i'r swyddfa etholiadau. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael o fis Ionawr 2023. Ar ôl i chi dderbyn eich Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, bydd yn ddilys am ddeng mlynedd o'r ddyddiad cyflwyno.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr fydd 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad etholiad. Gallwch wneud cais am dystysgrif yma.

Bydd angen i chi ddangos eich prawf adnabod cymeradwy â llun neu'ch Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn gorsafoedd pleidleisio o fis Mai 2023 ymlaen mewn etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Pleidleiswyr drwy'r Post a Phleidleiswyr drwy Ddirprwy

Ni fydd hyn yn effeithio ar bleidleiswyr drwy'r post a byddant yn derbyn eu papurau pleidleisio drwy'r post yn ôl yr arfer. Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirprwy, bydd yn rhaid i'r sawl rydych wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan ddangos ei brawf adnabod ei hun i gael papur pleidleisio.

Cwestiynau cyffredin

Rydym wedi llunio rhai Cwestiynau Cyffredin ynghylch Prawf Adnabod Pleidleisiwr.

Newidiadau pellach o ganlyniad i Ddeddf Etholiadau 2022

Bydd newidiadau pellach yn dod i rym ar gyfer Etholiadau Seneddol ac Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen hon pan fyddwn yn gwybod mwy am y newidiadau hyn.

Rhagor o wybodaeth

Gov.uk

Deddfwriaethol

Cyngor a Democratiaeth