Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 25/03/2024

Adnabod Pleidleiswyr mewn Gorsafoedd Pleidleisio

Fel rhan o Ddeddf Etholiadau 22, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gofyniad i bleidleiswyr ddangos llun adnabod wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac Etholiadau Seneddol (nid etholiadau lleol neu etholiadau'r Senedd yng Nghymru).

Bydd y gofyniad newydd hwn yn berthnasol am y tro cyntaf yng Nghymru yn yr etholiadau ddydd Iau 2 Mai 2024. Er mwyn bwrw pleidlais yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i bleidleiswyr fod ar y gofrestr etholiadol a mynd â math addas o brawf adnabod â llun i'w gorsaf bleidleisio.

Yn yr orsaf bleidleisio, bydd staff yn gofyn am eich enw a'ch cyfeiriad fel arfer a byddant yn gofyn am weld eich prawf adnabod. Byddant yn sicrhau bod y prawf adnabod yn un o'r mathau dilys a, cyhyd â bod y llun yn edrych fel chi a'ch bod ar y gofrestr etholiadol, byddant yn rhoi papur pleidleisio i chi. Bydd lle ym mhob gorsaf bleidleisio ar gyfer gwirio lluniau adnabod yn breifat os oes angen.

Bydd Deddf Etholiadau 2022 yn mynnu bod pob pleidleisiwr yn dangos prawf adnabod sy’n cynnwys llun mewn gorsafoedd pleidleisio cyn iddo gael papur pleidleisio. Bydd angen dangos prawf adnabod ar gyfer Etholiadau Seneddol ac Etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn unig. Nid yw hyn yn berthnasol ar gyfer Etholiadau’r Senedd ac Etholiadau Cynghorau Lleol.

Bydd yn rhaid i etholwyr ddod â phrawf adnabod sy’n cynnwys llun megis:

  • Pasbort
  • Trwydded Yrru
  • Dogfen Mewnfudo 
  • Bathodyn glas
  • Tocyn bws person hŷn 
  • Cerdyn Oyster 60+

Os yw eich prawf adnabod sy’n cynnwys llun wedi dod i ben, caiff ei dderbyn ar yr amod bod y llun yn dal yn edrych yn debyg i chi. 

Bydd yn rhaid i orsafoedd pleidleisio gael man preifat i'r etholwr ddangos prawf adnabod yn breifat os gofynnir am hynny. 

Dim ond y swyddog llywyddu a'r clerc pleidleisio all archwilio'r prawf adnabod. Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn gwirio’n gyntaf a ydych ar y Gofrestr Etholwyr ar gyfer yr orsaf bleidleisio honno (gallwch hefyd fynd â'ch cerdyn pleidleisio a fydd yn helpu staff yr orsaf bleidleisio). Ar ôl dod o hyd i'ch enw ar y Gofrestr, bydd staff yr orsaf bleidleisio wedyn yn gofyn am gael gweld eich prawf adnabod sy’n cynnwys llun. Pwrpas hyn yw i staff yr orsaf bleidleisio fod yn fodlon mai chi yw'r etholwr drwy wirio'ch enw a'ch llun ar y prawf adnabod. 

Bydd methu â dod â phrawf adnabod i’r orsaf bleidleisio yn golygu na ellir rhoi papur pleidleisio i chi HYD YN OED os yw staff yr orsaf bleidleisio yn eich adnabod drwy gysylltiad lleol. 

Os nad oes gennych unrhyw ffurfiau derbyniol o brawf adnabod sy’n cynnwys llun eisoes, byddwch yn gallu gwneud cais naill ai'n bersonol, drwy'r post neu ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr AM DDIM. Byddwch yn gwneud cais ar-lein ar wefan Gov.UK. Bydd gofyn i chi nodi'ch enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni, eich llun a’ch rhif yswiriant gwladol. Ar ôl i chi gwblhau'r broses, bydd Tystysgrif yn cael ei phostio atoch â stamp dosbarth cyntaf. 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am un o'r tystysgrifau hyn fydd 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn diwrnod etholiad.

Rhagwelir y bydd modd gwneud cais ar-lein o 16 Ionawr 2023 ond nid yw’r dyddiad wedi'i gadarnhau eto.

Gallwch wneud cais am Dystysgrif o'r fath ond gwnewch yn siŵr yn gyntaf nad oes gennych fath addas o brawf adnabod eisoes. Bydd Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn ddilys am ddeng mlynedd.

Os gwnaethoch gais cyn y dyddiad cau, yna gall eich swyddfa etholiadau lleol argraffu tystysgrif awdurdod pleidleisiwr dros dro hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Bydd angen i chi gasglu'r dystysgrif hon yn bersonol o'r swyddfa etholiadau.

Yng Nghymru nid oes unrhyw etholiadau yn cael eu rhagweld yn 2023 ond gallai fod etholiad Seneddol sydyn. Os caiff yr etholiad hwn ei alw ar ôl mis Mai 2023, bydd gofyn i chi ddangos prawf adnabod i bleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio.

Efallai y cynhelir etholiad lleol – etholiad Tref neu Gymuned neu etholiad Cyngor Sir (oherwydd bod Aelod wedi ymddiswyddo neu wedi marw) ond NI FYDD angen i chi ddangos prawf adnabod ar gyfer yr etholiadau hyn oherwydd eu bod yn etholiadau llywodraeth leol.

Efallai y byddwch yn gweld neu’n clywed bod etholiadau lleol yn Lloegr ym mis Mai 2023 a bydd llawer o gyhoeddusrwydd i sicrhau bod gan etholwyr yn Lloegr ddogfennau Prawf Adnabod Pleidleiswyr er mwyn pleidleisio. Fel y nodwyd, yng Nghymru nid oes gennym unrhyw etholiadau ym mis Mai 2023 AC NID yw ein hetholiadau lleol yng Nghymru yn dod o dan y gofynion prawf adnabod pleidleiswyr ond maent yn berthnasol ar gyfer etholiadau lleol Lloegr.

Oni bai bod etholiad cynharach yn cael ei alw, ni fydd yr Etholiad Seneddol nesaf yn cael ei gynnal tan Ionawr 2025. Mae'r penderfyniad i gynnal etholiad cynnar fel arfer yn nwylo'r prif weinidog.

  • Pasbort a gyflwynwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad)
  • Trwydded yrru (a gyhoeddir gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE - gan gynnwys trwydded dros dro)
  • Bathodyn glas
  • Rhai cardiau teithio rhatach
  • Cerdyn adnabod gyda marc PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran)
  • Dogfen fewnfudo biometrig
  • Cerdyn adnabod amddiffyn
  • Rhai cardiau adnabod cenedlaethol

Dim ond dogfennau gwreiddiol fydd yn cael eu derbyn; ni dderbynnir delweddau neu gopïau wedi'u sganio. Caiff dogfennau sydd wedi dod i ben eu derbyn os yw'r llun yn dal i edrych yn debyg i'r pleidleisiwr.

I gael rhagor o wybodaeth am ba fathau o brawf adnabod fydd yn cael eu derbyn, ewch i wefan Comisiwn Etholiadol neu ffoniwch linell gymorth y Comisiwn Etholiadol ar 0800 328 0280.

Os nad oes gennych fath derbyniol o brawf adnabod eisoes, neu os nad ydych yn siŵr a yw'ch llun yn dal i edrych fel chi, gallwch wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr am ddim a elwir ynDystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Gallwch wneud cais am hyn drwy fynd i Gov.uk.

Fel arall, gallwch lenwi ffurflen gais bapur a'i hanfon at y tîm Gwasanaethau Etholiadol yn eich cyngor lleol. 

Llwythwch mwy

Cyngor a Democratiaeth