Etholiadau Senedd Cymru

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/03/2021

Mae etholiadau ar gyfer Senedd Cymru yn cael eu cynnal bob pum mlynedd.

Mae 60 o Aelodau Senedd (ASau) etholedig ac mae pump ohonynt yn eich cynrychioli chi.Mae un Aelod o’r Senedd yn cynrychioli eich Etholaeth yn y Senedd - mae dwy Etholaeth yn Sir Gaerfyrddin – Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ac Etholaeth Llanelli ac mae'r pedwar arall i gyd yn cynrychioli eich rhanbarth (Canolbarth a Gorllewin Cymru).

Mae Senedd Cymru yn cynrychioli pobl Cymru. Mae ganddi’r grym i wneud penderfyniadau yn y meysydd canlynol:

  • amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig
  • henebion ac adeiladau hanesyddol
  • diwylliant
  • datblygu economaidd
  • addysg a hyfforddiant
  • yr amgylchedd
  • gwasanaethau tân ac achub
  • iechyd a gwasanaethau iechyd
  • priffyrdd a thrafnidiaeth
  • tai
  • diwydiant
  • llywodraeth leol
  • gweinyddiaeth gyhoeddus
  • lles cymdeithasol
  • chwaraeon a hamdden
  • twristiaeth
  • cynlluniau gwlad a thref
  • amddiffynfeydd dŵr a llifogydd
  • yr iaith Gymraeg

Gall Senedd Cymru ddeddfu yn y meysydd hyn a gelwir y cyfreithiau hynny yn Filiau’r Senedd.  Mae’r cyfreithiau hyn yn unigryw i Gymru a byddant yn adlewyrchu anghenion a phryderon penodol pobl Cymru. 

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) beth rheolaeth dros rai gwasanaethau cyhoeddus a meysydd deddfwriaethol, megis cyfrifoldebau dros wasanaeth yr heddlu, nawdd cymdeithasol a chyflogaeth.   

Pan fyddwch yn pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru, mae gennych ddwy bleidlais – un bleidlais i ethol aelod etholaethol ac un bleidlais i ethol eich aelod rhanbarthol. 

Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ac Etholaeth Llanelli

Yn y bleidlais etholaethol, rydych yn dewis yr ymgeisydd rydych am iddo/iddi eich cynrychioli’n uniongyrchol.

Mae'r Etholaethau yn dilyn ffin Sir Gaerfyrddin.

Senedd Cymru – Rhanbarth: Canolbarth a Gorllewin Cymru

Yn y bleidlais ranbarthol, rydych yn dewis o restr plaid neu ymgeiswyr annibynnol  i gynrychioli eich rhanbarth h.y. nid ydych yn pleidleisio dros ymgeisydd unigol. 

Mae Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnwys yr Etholaethau canlynol mewn 5 sir:

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed
  • Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
  • Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
  • Ceredigion
  • Dwyfor Meirionnydd
  • Llanelli
  • Maldwyn
  • Preseli Penfro

Cyngor Sir Ceredigion yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer y rhanbarth ac felly Prif Weithredwr y sir yw’r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol. 

Bydd pob awdurdod lleol yn cyfrif ei bleidleisiau ei hunan ac yn darparu’r canlyniadau hyn i’r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol.  Pan fydd y canlyniadau i gyd wedi eu  casglu, bydd y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol yn datgan pwy sydd wedi eu hethol ar gyfer Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru a bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar y wefan hon.  Bydd hyn yn digwydd ddydd Gwener, 7 Mai 2021. 

Ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru, mae’n rhaid eich bod :

  • Wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
  • Yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad – 6 Mai 2021.
  • Yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr UE neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad*
  • Yn ddinesydd cymwys o wlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU, neu’n rhywun nad oes angen caniatâd o’r fath arnoch

*Dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yw rhywun sydd â’r hawl i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU neu rywun nad oes angen hawl o’r fath arno/arni.  Gellir dod o hyd i  restr o’r gwledydd cymwys, Tiriogaethau  Dibynnol ar Goron Prydain a Thiriogaethau Tramor Prydeinig ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Ni all myfyrwyr bleidleisio ddwywaith yn etholiadau Senedd Cymru a byddent yn cyflawni trosedd pe baent yn gwneud hynny.  Dylent ddewis rhwng pleidleisio yn eu cyfeiriad cartref neu yn eu cyfeiriad prifysgol a threfnu pleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy yn ôl yr angen.

Mae’r grwpiau canlynol wedi’u heithrio’n gyfreithiol rhag pleidleisio yng Nghymru:

  • Unigolyn sydd dan gollfarn (er y gall carcharorion ar remánd, carcharorion sydd heb eto gael eu collfarnu a charcharorion sifil bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholwyr).
  • Unrhyw un a gafwyd yn euog o fewn y bum mlynedd ddiwethaf o arferion llwgr neu anghyfreithlon sy’n gysylltiedig ag etholiad.

Cyngor a Democratiaeth