Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn nodi egwyddorion ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn amlinellu sut y bwriadwn gyflawni ein cyfrifoldebau fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau ac fel arweinydd cymunedol. 

Rydym wedi ymrwymo i drin ein staff, a phobl Sir Gaerfyrddin, yn deg. Byddwn yn sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran, anabledd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, dosbarth cymdeithasol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, newid rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, cyfrifoldeb am ddibynyddion neu am unrhyw reswm annheg arall. 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yn cael eu darparu i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn astudio yn Sir Gaerfyrddin ac sy’n ymweld â'r sir. 

Mae’r Cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng 2020 a 2024, rhai o'r camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd i roi ein hymrwymiadau ar waith a sut y byddwn yn monitro ein perfformiad ac effeithiolrwydd y Cynllun Strategol hwn. 

Lawrlwythiadau

Cyngor a Democratiaeth