Cyfleusterau'r Celfyddydau ac Orielau

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

 Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion: 

  • Ein galluogi ni i gynnal, datblygu, ymchwilio a darparu rhaglen o arddangosfeydd a digwyddiadau a gweithgareddau addysgol ffurfiol ac anffurfiol.
  •  Prynu nwyddau a gwasanaethau a defnyddio artistiaid, gwneuthurwyr, dylunwyr, perfformwyr ac addysgwyr i ddarparu ein gwasanaeth.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol mewn perthynas â'r dibenion hyn yw er mwyn ymarfer ein hawdurdod o dan Adran 12 Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, y mae gan y Cyngor bŵer disgresiynol o dan honno i gynnal amgueddfeydd ac orielau celf.

Rydym hefyd yn cyfathrebu â'n cwsmeriaid er mwyn rhoi gwybod ichi am ein harddangosfeydd a'n digwyddiadau drwy e-byst marchnata.  Rydym hefyd yn gofyn ichi ein helpu ni i wella ein gwasanaeth drwy gymryd rhan mewn ymchwil ac arolygon cwsmeriaid.  Rydym yn cysylltu â chi yn y ffordd hon yn seiliedig ar eich caniatâd a gallwch dynnu hynny yn ôl ar unrhyw adeg drwy anfon neges e-bost atom.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

Artistiaid, gwneuthurwyr, dylunwyr, perfformwyr ac addysgwyr:

  •  Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad E-bost
  • Rhif Ffôn
  • Manylion Banc/Talu

Hefyd, mae angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd arnom pan fyddwch yn gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.

Gwirfoddolwyr:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad E-bost
  • Rhif Ffôn
  • Gwybodaeth am y berthynas agosaf

 Ein Cwsmeriaid:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad E-bost
  • Rhif Ffôn
  • Manylion Banc/Talu

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Fel yr esboniwyd eisoes, rydym yn derbyn gwybodaeth gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os ydych yn gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed yn ein horielau. Bydd gwiriad DBS yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • A oes unrhyw gollfarnau troseddol perthnasol?

Rydym yn prosesu'r wybodaeth hon ynghylch unrhyw gollfarnau troseddol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Rydym yn defnyddio trydydd parti o'r enw MailChimp, sydd wedi'i leoli yn Unol Daleithiau America, er mwyn anfon negeseuon e-bost marchnata at ein cwsmeriaid. 

Mae'r cwmni yn rhan o'r fframwaith Privacy Shield ac wedi ardystio ei fod yn cydymffurfio ag ef yn ogystal ag ymrwymo i ymdrin â'r holl ddata personol sy'n dod i law o wledydd sy'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn unol ag egwyddorion y fframwaith Privacy Shield.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Pan fydd angen inni gynnal gwiriad DBS, rydym yn rhannu eich enw a'ch manylion cyswllt gyda'r gwasanaeth hwn. 

Pan fyddwn yn trefnu arddangosfeydd teithiol, mae angen inni ddarparu eich manylion cyswllt i leoliadau eraill.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Rydym dim ond yn cadw gwybodaeth am artistiaid a chwsmeriaid tan ddiwedd y digwyddiad, yr arddangosfa neu'r gweithgaredd.

Rydym yn cadw data personol sydd wedi'i gynnwys mewn cofnodion ariannol am chwe blynedd yn ogystal â'r flwyddyn ariannol gyfredol a hynny yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

Os ydych yn wirfoddolwr, rydym yn cadw eich gwybodaeth am gyhyd â'ch bod yn parhau i weithio gyda ni.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth