Marchnata a'r cyfryngau

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Mae'r Tîm Marchnata a'r Cyfryngau yn defnyddio data personol am ystod eang o ddibenion, sydd o bosibl heb fod yn gwbl amlwg o'n henw:

  • Eich helpu chi i gael mynediad i wasanaethau'r Cyngor
    Rydym yn defnyddio data personol pan fyddwch yn gwneud ymholiadau ac yn gofyn i ni am help i gael mynediad i wasanaethau eraill y Cyngor. Rydym yn darparu'r gwasanaeth hwn mewn sawl ffordd:
    • Dros y ffôn, i'n Canolfan Gyswllt
    • Dros e-bost
    • Drwy ein gwefannau
    • Drwy ein cyfryngau cymdeithasol
    • E-newyddlenni'r Cyngor
  • Pan fyddwch yn ymweld â'n Hwb, ein Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid, ein Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid a'r desgiau yn ein derbynfeydd
  • Yn ogystal, rydym yn casglu data personol wrthych i greu cyfrif personol er mwyn ichi allu rheoli rhai o Wasanaethau'r Cyngor drwy Fy Nghyfrif.
  • Eich helpu chi i ddod o hyd i wasanaethau a chymorth er mwyn datblygu sgiliau a dod o hyd i gyfleoedd swyddi drwy'r Hwb
  • Helpu i hyrwyddo eich gwasanaethau a'ch cyfleusterau i dwristiaid sy'n ymweld â Sir Gaerfyrddin
  • Ffilmio a thynnu ffotograffau er mwyn hyrwyddo Sir Gaerfyrddin a Gwasanaethau’r Cyngor.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn ymarfer ein his-bwerau o dan Adran 111 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

Pan fyddwch chi eisiau i ni wneud hyn, byddwn ni hefyd yn anfon atoch:

  • Newyddlenni ar e-bost atoch i gefnogi busnesau twristiaeth
  • Negeseuon testun SMS

Rydym yn cyfathrebu â chi yn y ffordd hon yn seiliedig ar eich caniatâd a gallwch dynnu hynny yn ôl ar unrhyw adeg.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn eich helpu i gael mynediad i wasanaethau'r Cyngor:

  • Enw
  • Cyfeiriad a chyfeiriadau blaenorol
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Prawf Adnabod a Rhif Yswiriant Gwladol
  • Gwybodaeth am eich iechyd os yw'n berthnasol i'ch ymholiad

Er mwyn darparu cymorth ichi o ran dod o hyd i swydd, rydym yn gofyn ichi am y wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Delweddau/Ffotograffau

Yn ogystal, mae angen inni wybod os oes gennych unrhyw faterion iechyd, a fyddai'n effeithio ar eich opsiynau gwaith ac er mwyn galluogi darpar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer.

Yn ogystal, mae'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru ein bod yn casglu ychydig o wybodaeth am eich hil neu gefndir ethnig at ddibenion monitro cyfleoedd cyfartal, ond ni chaiff y wybodaeth hon ei rhannu ag unrhyw sefydliad arall.

Byddwn ni'n gofyn ichi a oes gennych gollfarn droseddol os ydych chi'n chwilio am gyflogaeth mewn galwedigaethau penodol, ond dim ond os yw'n berthnasol. Nid ydym yn cofnodi manylion y gollfarn, dim ond os oes gennych un ai peidio.

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol am eich gwasanaeth er mwyn helpu i hyrwyddo eich busnes i dwristiaid:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • E-bost
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Gwybodaeth am eich llety, eich atyniad a'ch/neu'ch digwydd

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU oni bai am ddelweddau sydd wedi'u cynnwys mewn cyhoeddiadau a fformatau digidol.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r isod, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Darperir cyn lleied o ddata personol ag sydd ei angen a dim ond lle mae'n angenrheidiol gwneud hynny.

  • Y gwasanaethau perthnasol yn y Cyngor rydych yn cysylltu â ni amdanynt
  • Sefydliadau allanol sy'n darparu cymorth a llesiant
  • Darparwyr Hyfforddiant
  • Partneriaid yr Awdurdod Lleol
  • Darparwyr Gwasanaeth dan Gontract

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth dra eich bod yn gwsmer ac am gyfnod o 2 flynedd ar ôl eich cysylltiad diwethaf â ni, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth