Hysbysiadau Cyhoeddus
- Archwilio cyfrifon
- Mynwent
- Seremonïau Sifil
- Adolygiad Cymunedol
- Addysg ac ysgolion
- Etholiadau
- Trwyddedu Amgylcheddol
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Tir
- Trwydded
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Cau mangre
- Gwella mangre
- Teithio, Ffyrdd a Pharcio
- Llwybr Cyd-Ddefnyddio Ffair-Fach I Felin-Wen
- Lôn Morfa, Caerfyrddin
- Ar Hen Heol Llansteffan
- Cwrt-Y-Cadno
- Carmarthen
- Heol Pontarddulais, Llanedi
- Y B4304 Ffordd Gyswllt Arfordirol
- Heol Cwmfferws I Deras Rhos, Tŷ-Croes
- Glynhir, Pont-Henri
- Heol Blaenau, Llandybïe
- Pentre Awel, Tref Llanelli
- Lanllawddog I Frechfa
- Heol Abergorlech, Horeb, Caerfyrddin
- Heol Ddu, Tŷ-Croes
- Llansteffan, Caerfyrddin
- Cilgant Great Western, Llanelli
- Sir Gaerfyrddin
- Pont Dolwilym, Llanglydwen
- Coedwig Caeo, Caeo
- Bwlchnewydd, Caerfyrddin
- Ffordd Ddiddosbarth I'r De O Langadog
- Ffordd Ddiddosbarth Yr U2295, Ffordd Gyswllt Cross Hands
27
Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu Ar Aros A Mannau Parcio Ar Y Stryd) (Amrywiad Rhif 23) 2024
Cyfeirnod y Ffeil: HMD/HTTR-1715
HYSBYSIR drwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adrannau (1), 2(1) i 2(3), 4(2), 32, 35 a 124 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) a pharagraff 27 o Atodlen 9 iddi.
Effaith y Gorchymyn fydd:
1. Diwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngiadau Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004 ("y Gorchymyn Cydgyfnerthu") (sydd yn darparu ar gyfer cymryd camau gorfodi sifil mewn perthynas â thorri’r gwaharddiadau a'r cyfyngiadau ar aros) drwy ddisodli'r cynlluniau a atodwyd i ddynodi Ardaloedd BP136, BR136, BR137, BR138, BS136, BS137, BU132 a BU134 gyda chynlluniau â rhifau cyfatebol ynghlwm wrth y Gorchymyn a nodwyd uchod.
Canlyniad y diwygio fydd:
(a) Gwahardd aros ar unrhyw adeg ar yr ochrau ffordd a/neu'r darnau ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Hysbysiad hwn ond yn fwy penodol ar y cynlluniau sy'n cynnwys y rhif(au) cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig ar gyfer pob ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1 y dylid darllen y cynlluniau dywededig ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth;
(b) Cyfyngu ar yr amser aros i 30 munud gan wahardd dychwelyd o fewn 30 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9.00am a 6.00pm ar ochrau'r ffordd a/neu'r darnau ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 2 i'r Hysbysiad hwn ond yn fwy penodol ar y cynllun sy'n cynnwys y rhif cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig ar gyfer yr ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1 ohoni, y dylid darllen y cynllun dywededig ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth; a
(c) Gwahardd aros ac eithrio ar gyfer Llwytho yn Unig ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 8.00am a 6.00pm ar ochr y ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 3 i'r Hysbysiad hwn ond yn fwy penodol a ddangosir ar y cynlluniau sydd â'r rhifau cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig ar gyfer yr ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1 ohoni, y dylid darllen y cynlluniau dywededig ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth,
a bydd yn disodli'r gwaharddiadau a'r cyfyngiadau presennol (os oes rhai) sydd yn effeithio ar y rhannau o'r ffordd a ddangosir ar y cynlluniau sydd â'r rhif cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o bob un o'r Atodlenni y cyfeirir atynt uchod.
2. Dirymu:
(a) Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004; a
(b) Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 2) 2004
i'r graddau y mae'r un peth yn ymwneud â'r cyfyngiadau a ddisgrifir yn fyr yn Atodlenni 4, 5, 6 a 7 i'r Hysbysiad hwn ac yn fwy penodol ar y cynlluniau sydd â'r rhifau cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlenni dywededig.
Bydd darpariaethau’r eithriadau arferol sydd yn y Gorchymyn Cydgyfnerthu yn weithredol mewn perthynas â'r ffyrdd y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 (a), (b) a (c) uchod. Mae’r rhain yn cynnwys hawl teithwyr i esgyn i gerbyd neu ddisgyn ohono, llwytho a dadlwytho nwyddau, cyflawni gwaith adeiladu a gwaith arall, cyflawni dyletswyddau neu bwerau statudol a galluogi cerbyd i gael petrol, olew, dŵr neu aer o unrhyw garej sydd ger y cyfryw ddarnau o'r ffordd y mae'r cyfyngiad arfaethedig yn effeithio arnynt.
Yn ogystal, mae'r Gorchymyn Cydgyfnerthu yn cynnwys y consesiynau parcio arferol ar gyfer pobl anabl yn unol â'r Cynllun Bathodynnau Glas.
Mae manylion llawn y cynigion hyn wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn drafft a allai, ynghyd â'r cynlluniau a atodwyd iddo ddangos y rhannau o'r ffordd yr effeithir arnynt a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, gael eu harchwilio yn Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn Uned 22, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin, SA31 1GA yn ystod oriau swyddfa arferol.
Gellir gweld y dogfennau hefyd ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin drwy fynd i https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/hysbysiadau-cyhoeddus/ neu eu cael yn rhad ac am ddim drwy ysgrifennu at Adain Rheoli Traffig y Cyngor yn Adeilad 2, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ neu drwy e-bostio ENTrafficManagement@sirgar.gov.uk.
Os ydych am wrthwynebu'r Gorchymyn arfaethedig anfonwch eich rhesymau dros wrthwynebu yn ysgrifenedig at Linda Rees-Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP erbyn 24ain o Ebrill, 2024.
DATGANIAD O'R RHESYMAU
Yn Heol Dolgwili, bydd rhan o Le Parcio Amser Cyfyngedig presennol yn cael ei dirymu a'i disodli gan Waharddiad ar Aros er mwyn gwella gwelededd i dramwyfeydd preswyl cyfagos a gwell mynediad i arhosfan bysiau.
Yn Rhes Tabernacl, bydd y dirymiad yn rhan o'r Gwaharddiad ar Aros presennol a bydd darparu rhan newydd o Waharddiad ar Aros yn caniatáu darparu Lle Parcio ychwanegol i Breswylwyr, yn ogystal â gwella mynediad a gwelededd i eiddo preswyl ac oddi yno.
Yn Y Llannerch, bydd y dirymiad yn rhan o'r Gwaharddiad ar Aros presennol a Llefydd Aros Amser Cyfyngedig a bydd yn caniatáu darparu Llefydd Parcio ychwanegol i Breswylwyr lle nad oes digon o le ar hyn o bryd ar gyfer parcio o'r fath.
Yn Heol Las, bydd rhan o ardal 'Dim Stopio ac eithrio Tacsis' presennol yn cael ei dirymu a'i disodli gan Le Parcio Amser Cyfyngedig (Llun-Sadwrn, 9am-6pm, 30 munud heb ddychwelyd o fewn 30 munud) er mwyn darparu parcio tymor byr ychwanegol i gefnogi busnesau cyfagos.
Bydd darparu Llecyn Llwytho yn Unig newydd (Llun-Sadwrn, 8am-6pm) yn Heol Spilman, o fewn llefydd llwytho a adeiladwyd yn ddiweddar, yn helpu i ddarparu ardaloedd llwytho pwrpasol ar gyfer busnesau cyfagos a thrwy gael gwared ar lwytho ar y ffordd, bydd yn gwella llif y traffig.
Bydd ymestyn y Gwaharddiad presennol ar Aros yn Llys Myrddin yn gwella mynediad a gwelededd i eiddo preswyl ac oddi yno.
Mae'r gwaharddiad ar Aros ar hyd Heol Abergwili yn cael ei ddarparu er mwyn helpu i atal parcio dwbl a gwella blaenwelededd a thrwy hynny hefyd wella diogelwch cyffredinol ar y ffyrdd.
Mae'r Gwaharddiad ar Aros ar gyffordd Lôn Pisgwydd a Nant-yr-Arian yn cael ei ddarparu i atal aros ar y gyffordd neu ar y ffordd wrth y gyffordd, yn ogystal â diogelu'r gwelededd i fannau croesi heb eu rheoli ac oddi yno.
E-Bost:hemdavies@sirgar.gov.uk
Llinell Uniongyrchol: 01267 224066
Wendy Walters, Prif Weithredwr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
- Math o hysbysiad: Teithio, Ffyrdd a Pharcio
- Lleoliad: Caerfyrddin
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth