Chwaraeon a Hamdden Actif

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

  • Darparu gweithgareddau a chyfleusterau chwaraeon a hamdden ichi.
  • Dilysu cymhwysedd eich aelodaeth a rheoli eich cyfrif gan gynnwys prosesu archebion ar-lein a thrafodion eraill sy'n cael eu gwneud ar ein gwefan.
  • Gwella iechyd aelodau drwy gymryd rhan yn y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS).

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw ymarfer awdurdod i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau hamdden, pŵer disgresiynol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol (sensitif) categori arbennig am iechyd aelodau am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd mewn perthynas â NERS, ar sail y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod.

Caiff eich gwybodaeth hefyd ei defnyddio at y dibenion canlynol, lle rydych yn dymuno i ni wneud hyn:

  • Rhoi gwybod ichi am newidiadau pwysig, cynigion arbennig, hyrwyddiadau a chynnyrch a gwasanaethau eraill rydym yn eu cynnig a allai fod o ddiddordeb ichi drwy'r post neu drwy e-bost.
  • Cysylltu â chi i gael eich barn am ein gwasanaethau er mwyn i ni wella a datblygu gwell cynnyrch a gwasanaethau.

Rydym yn cysylltu â chi yn y modd hwn yn seiliedig ar eich caniatâd a gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy e-bostio.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol am ein haelodau er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

Aelodau Chwaraeon a Hamdden Actif:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Côd Adnabod Aelod a Rhif PIN (unigryw)
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Manylion Banc/Talu er mwyn prosesu taliadau
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg ar gyfer dewisiadau aelodaeth benodol
  • Gwybodaeth am eich targedau ffitrwydd
  • Eich Llun

Rydym hefyd yn gofyn ichi ddangos prawf o'ch hawl i gael aelodaethau rhatach megis Nofio Am Ddim, Aelodaeth Gorfforaethol, Aelodaeth Myfyriwr, Aelodaeth 60+, Aelodaeth Aelwyd, Tocyn Hamdden ac Aelodaeth Cyn-filwr ond nid ydym yn cadw copi o'r wybodaeth hon. Rydym yn cadw cofnod o'r rheswm dros eich hawl i gael aelodaeth ratach.

Aelodau'r Cynllun Cyfeirio gan Feddygon Teulu:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Côd Adnabod Aelod a Rhif PIN (unigryw)
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Eich Llun
  • Gwybodaeth am eich iechyd er mwyn argymell ymarferion

Yn ogystal â'r uchod, rydym hefyd yn cadw gwybodaeth am blant sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Dysgu Nofio, Clwb Actif a rhaglenni ysgolion cymunedol.  Rydym yn defnyddio'r data personol canlynol:

  • Enw’r Plentyn
  • Cyfeiriad
  • Enw a manylion cyswllt ar gyfer oedolyn cyfrifol
  • Côd adnabod aelod a rhif PIN (unigryw)
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • A oes gan y plentyn anabledd sydd angen i ni wybod amdano er mwyn ei gadw'n ddiogel

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol mewn perthynas â chwsmeriaid sy'n cael eu cyfeirio atom drwy'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff:

  • Ymarferwyr Cyffredinol
  • Gweithwyr iechyd proffesiynol eraill

Ceir y mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Enw cyswllt mewn argyfwng a rhif ffôn
  • Dyddiad Geni
  • Rhif GIG
  • Enw a chyfeiriad Meddyg Teulu a'r Feddygfa
  • Alergeddau
  • Meddyginiaethau
  • Gwybodaeth am eich iechyd sydd ei hangen arnom er mwyn darparu rhaglen ymarfer corff

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Mae eich gwybodaeth bersonol yn rhan bwysig o'n gwasanaeth.  Er enghraifft, mae'n caniatáu i ni ddarparu ein gwasanaethau ichi gan gynnwys rheoli eich aelodaeth a'ch archebion.

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth dim ond pan fo angen gwneud hynny.  Pan fyddwn ni'n ei wneud, rydym yn darparu cyn lleied o ddata personol ag sy’n angenrheidiol:

  • Nofio Cymru/Pasbort y Dŵr, os yw eich plentyn yn rhan o'r Cynllun Dysgu Nofio

Rydym hefyd yn defnyddio cwmnïau preifat i brosesu data personol. Mae gennym gytundebau mewn lle gyda nhw ac maent yn prosesu eich gwybodaeth dim ond yn ôl ein cyfarwyddiadau:

  • Mae Gladstone yn darparu ein cronfa ddata ac yn cael mynediad i'r data wrth iddynt wneud gwaith cynnal a chadw ar y system.
  • Upshot, sy’n dadansoddi presenoldeb mewn gweithgareddau cymunedol ac ysgolion ac sy’n cael gafael ar enwau, cyfeirnodau unigryw a chodau post
  • Mae'r Retention People yn darparu meddalwedd i ni rydym yn ei defnyddio i gysylltu â chi am eich defnydd o'n gwasanaethau ac i gynnal arolygon bodlonrwydd. Rydym yn defnyddio'r adborth hwn i geisio gwella'n barhaus. Mae gan y feddalwedd fynediad i'ch enw, eich manylion cyswllt, eich llun a'r math o aelodaeth sydd gennych.
  • Mae Brief Your Market yn darparu meddalwedd i ni rydym yn ei defnyddio i gysylltu â chi er mwyn anfon negeseuon wedi'u personoli atoch, hyrwyddiadau a gwasanaethau wedi'u teilwra at eich diddordebau unigol. Mae gan y feddalwedd fynediad i'ch enw, eich manylion cyswllt a'r math o aelodaeth sydd gennych.

 Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth am gyfnod eich aelodaeth. Os byddwch yn canslo'ch aelodaeth, caiff eich data personol ei ddileu o'n systemau cyfrifiadurol ar ôl 25 mis. Caiff copïau o aelodaethau papur eu cadw am 3 mis.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth