Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o broses gynnig Cronfa Adfywio Cymunedol y DU, fel y gallwn gysylltu â chi ynglŷn â'ch cynnig ac at ddibenion monitor. Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion:
- Asesu a blaenoriaethu cynigion
- Gweinyddu taliadau a monitro ar ôl rhoi taliadau
- Efallai y byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i'ch contractio am faterion sy'n benodol i'r Gronfa
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd. Felly nid ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu eich data personol.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch i ddarparu'r gwasanaeth hwn/Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch i ddarparu'r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Gwybodaeth ariannol - eich cyfrifon, llif arian, manylion banc / talu
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth oddi wrthych chi'n uniongyrchol ond rydym hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Cwmni gwirio credyd, i gael gwybod am ddichonoldeb ariannol
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu eich data personol dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn darparu'r lleiafswm o wybodaeth sy'n angenrheidiol ym mhob achos i'r derbynwyr canlynol:
- Gwasanaethau ariannol y Cyngor er mwyn gwneud taliadau/cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy
- Aelodau o'n grŵp rhanddeiliaid ymgynghorol allanol fel rhan o'r broses asesu
- Adrannau amrywiol y Cyngor y mae angen i ni ymgynghori â hwy lle bo'n berthnasol gan gynnwys y Gwasanaethau Cyfreithiol, Dylunio Eiddo, Eiddo Corfforaethol ac ati.
- Cofrestrfa Tir EM er mwyn rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â thir ac er mwyn cofrestru pridiannau cyfreithiol neu gyfyngiadau cyfreithiol lle bo hyn yn angenrheidiol
- Llywodraeth y DU
Gellir rhannu'r data hefyd gyda chontractwyr lle cânt eu defnyddio at ddibenion monitro, i werthuso'r rhaglen. Bydd eu contract yn nodi'r hyn y caniateir iddynt ei wneud gyda data personol.
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Os bydd eich cynnig yn llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael ei gadw am hyd at ddwy flynedd ar ôl cau'r broses gynnig. Amcangyfrifir mai mis Medi 2025 fydd hyn ar hyn o bryd. Fel rhan o'r broses fonitro, byddwn yn cysylltu â chi'n rheolaidd i sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol.
Pe bai'ch cynnig yn aflwyddiannus, byddwn yn dileu eich data personol.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2021-22
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth