Dysgu a Datblygu

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Mae Dysgu a Datblygu yn defnyddio'ch gwybodaeth i ddarparu cyrsiau hyfforddi.  Proses ar sail ceisiadau yw hon ac mae angen ichi ddarparu data personol er mwyn ichi allu mynegi eich diddordeb yn y cwrs. Yn ogystal, mae angen gwybodaeth arnom fel y gallwn benderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer cwrs ac er mwyn ein cynorthwyo o ran darparu hyfforddiant.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Eich enw a'ch cyfeiriad
  • Rhifau ffôn er mwyn inni gysylltu â chi
  • Cyfeiriad e-bost er mwyn inni ysgrifennu atoch
  • Eich teitl swydd ac ychydig o wybodaeth am eich rôl
  • Rheswm dros wneud cais am le ar y cwrs
  • Eich dewis iaith

Hefyd, rydym yn gofyn ichi ddarparu manylion cyswllt ar gyfer eich rheolwr llinell neu berson a benodwyd, yn ogystal ag enw cyswllt er mwyn anfon anfoneb am daliad y cwrs os yw'n wahanol i'r uchod.

Y sail gyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio'r data personol hwn yw ymarfer ein hawdurdod i hyfforddi a datblygu staff o dan adran 111 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Yn ogystal rydym yn casglu a defnyddio data personol sensitif lle y bo'n berthnasol (fe'i gelwir yn ddata categori arbennig).  Cyfyngir y data hwn i wybodaeth ynghylch a oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad y mae angen inni fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddarparu cwrs. Felly rydym yn defnyddio'r wybodaeth i arfer ein rhwymedigaethau o dan gyfraith anabledd a chyflogaeth. 

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Rydym ond yn casglu'r wybodaeth a restrir isod yn uniongyrchol wrthych chi, eich rheolwr neu berson a benodwyd.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Fel arfer, nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw un arall

Fodd bynnag, mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Gallwch weld pa mor hir rydym yn cadw gwybodaeth drwy ddarllen ein canllawiau Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth