Gwasanaethau Priffyrdd

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch at y dibenion canlynol:

  • Cofnodi ac ymateb i adroddiadau gan y cyhoedd ac Aelodau Etholedig am ddiffygion ar y priffyrdd 
  • Gorfodi – cyflwyno Hysbysiadau Priffyrdd ac erlyn achosion o ddiffyg cydymffurfio â nhw 

Y sail gyfreithlon dros brosesu'r wybodaeth hon yw oherwydd bod gwneud hynny'n angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd, neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, sydd â sail gyfreithiol. 

Defnyddir gwybodaeth am erlyniadau troseddol hefyd am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Manylion cyswllt
  • Manylion perchnogaeth tir 
  • Delweddau a ffotograffau (yn cynnwys teledu cylch cyfyng) 
  • Troseddau ac euogfarnau (lle bo'r hysbysiadau sy'n cael eu cyflwyno yn arwain at erlyniad)

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi o'r ffynonellau canlynol: 

  • Y Gofrestrfa Tir, pan fydd angen i ni gyflwyno hysbysiadau ffurfiol/cyfreithiol yn unol â Deddf Priffyrdd 1980
  • Ein tîm y Dreth Gyngor

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth.  Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn darparu cyn lleied o wybodaeth ag sy'n angenrheidiol ym mhob achos i'r canlynol:

  • Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor ac ymgynghorwyr cyfreithiol allanol 
  • Y Gofrestrfa Tir
  • Y Llysoedd
  • Gwasanaethau eraill y Cyngor, pan fo hyn yn berthnasol
  • Contractwyr

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am gyfnod o chwe blynedd o'r dyddiad y cafodd yr achos ei gau.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd