Profiad Gwaith

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion:

  • Sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y Rhaglen Profiad Gwaith
  • Dod o hyd i leoliad ar eich cyfer
  • Cysylltu â chi dros e-bost am gyfleoedd am leoliadau, neu awgrymu lleoliadau eraill os nad yw eich dewis gwreiddiol ar gael

O dan ddeddfwriaeth Diogelu Data, mae'n rhaid i ni gael sail gyfreithiol i ganiatáu i ni brosesu eich gwybodaeth.  Y sail yw er mwyn i ni arfer ein hawdurdod i gyflogi staff o dan Adran 111 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Y sail ar gyfer prosesu gwybodaeth am eich iechyd yw bod angen y wybodaeth hon arnom i fodloni ein rhwymedigaethau o dan y gyfraith cyflogaeth. 

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Mae'r Cyngor yn darparu gwybodaeth am brofiad gwaith ar draws y sefydliad.  Mae hyn yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau mewn gweithle ac yn cefnogi ein Polisi Dysgu.

Pan fyddwch yn gwneud cais am brofiad gwaith ar ein gwefan,  rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol gennych:

  • Eich enw a'ch manylion cyswllt
  • Eich dyddiad geni a'ch rhywedd
  • Enw eich ysgol/coleg
  • Enw a manylion cyswllt athro/athrawes/tiwtor/cydgysylltydd
  • Enw a manylion cyswllt rhywun i gysylltu ag ef mewn argyfwng
  • Gwybodaeth am unrhyw gyflyrau iechyd sydd gennych y byddai angen i ni wybod amdanynt, er enghraifft, er mwyn gwneud addasiadau ar eich cyfer yn ystod y lleoliad
  • Y math o swydd yr ydych yn gofyn amdani ac unrhyw bynciau yr ydych yn eu hastudio
  • Unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym i ategu eich cais

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Nac ydyn.  I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym ond yn rhannu eich gwybodaeth ag adrannau eraill y Cyngor sy'n cynnig lleoliadau profiad gwaith.  Rydym yn gwneud hyn er mwyn iddynt wneud penderfyniad ynghylch cynnig lleoliad priodol ar ôl ystyried y wybodaeth.

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich cais yn ddiogel ar ffurf electronig, a dim ond y gweithwyr y mae angen iddynt gael mynediad iddo all ei weld.

Os nad yw eich cais am brofiad gwaith yn llwyddiannus, bydd y Cyngor yn dileu eich data personol o fewn tri mis ar ôl i ni dderbyn eich cais, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth am chwe mis ar ôl diwedd eich lleoliad profiad gwaith.  Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw caiff eich data personol ei ddileu yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth