Hysbysiadau Cyhoeddus
- Archwilio cyfrifon
- Mynwent
- Seremonïau Sifil
- Adolygiad Cymunedol
- Addysg ac ysgolion
- Etholiadau
- Trwyddedu Amgylcheddol
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Tir
- Trwydded
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Cau mangre
- Gwella mangre
- Teithio, Ffyrdd a Pharcio
- Llwybr Cyd-Ddefnyddio Ffair-Fach I Felin-Wen
- Lôn Morfa, Caerfyrddin
- Ar Hen Heol Llansteffan
- Cwrt-Y-Cadno
- Carmarthen
- Heol Pontarddulais, Llanedi
- Y B4304 Ffordd Gyswllt Arfordirol
- Heol Cwmfferws I Deras Rhos, Tŷ-Croes
- Glynhir, Pont-Henri
- Heol Blaenau, Llandybïe
- Pentre Awel, Tref Llanelli
- Lanllawddog I Frechfa
- Heol Abergorlech, Horeb, Caerfyrddin
- Heol Ddu, Tŷ-Croes
- Llansteffan, Caerfyrddin
- Cilgant Great Western, Llanelli
- Sir Gaerfyrddin
- Pont Dolwilym, Llanglydwen
- Coedwig Caeo, Caeo
- Bwlchnewydd, Caerfyrddin
- Ffordd Ddiddosbarth I'r De O Langadog
- Ffordd Ddiddosbarth Yr U2295, Ffordd Gyswllt Cross Hands
27
Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Sir Gaerfyrddin (Ac Eithrio Caerfyrddin, Llanelli A Rhydaman)) (Cyfyngu Ar Aros A Mannau Parcio Ar Y Stryd) (Arbrofol) (Amrywiad Rhif 40) 202
Cyfeirnod y Ffeil: HD/HTTR-1759
HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyrddin, ar yr 20fed o Ragfyr 2023, wedi gwneud Gorchymyn o dan Adrannau 9 a 10 a Pharagraff 27 o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd).
Effaith y Gorchymyn hwn yw:
1. Addasu Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Sir Gaerfyrddin (Ac Eithrio Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman)) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004 ("y Gorchymyn Cydgyfnerthu"), (sy’n darparu ar gyfer cymryd camau gorfodi sifil mewn perthynas â thorri’r gwaharddiadau a’r cyfyngiadau ar aros) fel petai'r cynlluniau sy'n dynodi Ardaloedd BI177, CV167, DI127, DI128, DH128, DT165, DU164, DU165, DY104, DY105 a DJ171, a oedd ynghlwm wrth y Gorchymyn, wedi'u cyfnewid am gynlluniau â rhifau cyfatebol sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn arbrofol a nodwyd uchod a'r cynlluniau hynny fydd drechaf yn ystod cyfnod y Gorchymyn arbrofol. Canlyniad yr addasiad yw:
(a) Gwahardd aros ar unrhyw adeg ar yr ochrau ffordd a/neu'r darnau ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Hysbysiad hwn ond yn fwy penodol ar y cynlluniau sy'n cynnwys y rhif(au) cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig ar gyfer pob ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1 y dylid darllen y cynlluniau dywededig ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth;
(b) Gwahardd aros ar unrhyw adeg heb eithriadau ar yr ochr ffordd a/neu ar y darn ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 2 i'r Hysbysiad hwn; a
(c) Cyfyngu ar yr amser aros i 2 awr gan wahardd dychwelyd o fewn 2 awr bob awr, bob dydd ar yr ochr ffordd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o Atodlen 3 i'r Hysbysiad hwn ond yn fwy penodol ar y cynllun sy'n cynnwys y rhif cyfeirnod unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig ar gyfer yr ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1 y dylid darllen y cynllun dywededig ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth
2. Dirymu:
(a) Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Sir Gaerfyrddin (Ac Eithrio Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 30) 2019
(b) Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Sir Gaerfyrddin (Ac eithrio Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 37) 2021
(c) Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Sir Gaerfyrddin (Ac Eithrio Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 39) 2022
i'r graddau y mae'r un peth yn ymwneud â'r cyfyngiadau a ddisgrifir yn fyr yn Atodlenni 4, 5 a 6 i'r hysbysiad hwn neu'n ymwneud â'r darnau neu'r ochrau ffordd y cyfeirir atynt yn fwy benodol yn Atodlenni 1, 2 a 3 ac sy'n ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir neu y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1(a), (b) a (c) uchod.
Bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar y trydydd o Ionawr, 2024 a gellir cael golwg ar y Gorchymyn ynghyd â'r cynlluniau sy'n dangos y darnau ffordd a/neu'r ochrau ffordd yr effeithir arnynt a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud Gorchymyn Arbrofol a'r gorchmynion sy'n cael eu dirymu, yn Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn:
Uned A, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin, SA31 1GA,
Rhif 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS, ac
Yr HWB, Rhif 36 Stryd Stepney, Llanelli SA15 3TR
yn ystod yr oriau swyddfa arferol.
Gellir gweld y dogfennau hefyd ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin yn https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/hysbysiadau-cyhoeddus neu eu cael yn rhad ac am ddim drwy ysgrifennu at Adain Rheoli Traffig y Cyngor, Bloc 2 Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ neu e-bostio ENTrafficManagement@sirgar.gov.uk
Ar ôl cyfnod cychwynnol o chwe mis bydd y Cyngor yn ystyried a fydd darpariaethau'r Gorchymyn yn parhau mewn grym am gyfnod amhenodol ai peidio. Os hoffech wrthwynebu gwneud Gorchymyn parhaol yn unol ag amodau'r Gorchymyn Arbrofol, dylech nodi'r rhesymau dros eich gwrthwynebiad mewn llythyr a'i anfon at Linda Rees Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP, erbyn y chweched ar hugain o Orffennaf 2024.
Gall unrhyw un sy'n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, am nad yw o fewn y pwerau a roddwyd gan y Ddeddf, neu am na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad yn y Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani mewn perthynas â'r Gorchymyn, wneud cais i'r Uchel Lys at y diben hwn o fewn chwe wythnos i'r dyddiad y gwnaed y Gorchymyn.
DYDDIEDIG y 27ain o Ragfyr, 2023.
DATGANIAD O RESYMAU
Mae'r cyfyngiadau ar Heol Cwmaman, y Garnant yn cael eu darparu i helpu i atal parcio dwbl, drwy gadw ochr ddeheuol y ffordd yn glir o gerbydau sydd wedi'u parcio, wrth ganiatáu parcio ar ochr ogleddol y ffordd lle mae'n fwy diogel i wneud hynny ac er mwyn gallu gweld ymlaen yn glir.
Mae'r cyfyngiadau yn Heol Ffoland, y Garnant yng nghyffiniau Ysgol y Bedol yn cael eu darparu i wella diogelwch ffyrdd, amwynder, a rhwyddineb i gerbydau (gan gynnwys beicwyr) a cherddwyr, yn ogystal ag osgoi tagfeydd y tu allan i'r ysgol. Dylai'r mesurau helpu i atal parcio yn y lleoliad hwn lle nad yw'n ddiogel gwneud hynny ac atal aros ar gyffordd gyfagos.
Ar Heol y Cyrnol, y Betws bydd rhan o'r ardal Dim Llwytho/Dadlwytho ar unrhyw Adeg yn cael ei dirymu a'i disodli gan gyfyngiad Gwahardd Aros i ganiatáu nwyddau i gael eu dosbarthu i drigolion lleol, ond i atal parcio cyffredinol ger maes chwarae a chyffordd.
Yn Ffordd y Porth, Glanyfferi, bydd y dirymiad yn rhan o'r cyfyngiadau presennol a bydd darparu cyfyngiadau newydd o gymorth i weld ymlaen yn glir ger cornel gul a chynorthwyo diogelwch cyffredinol ar y ffordd drwy ganiatáu pobl i weld ymlaen yn gliriach.
Bydd y cyfyngiadau ar Heol Caerfyrddin, Heol Diana a Greenfield Place, Llandeilo yn atal parcio amhriodol yn agos at gyffyrdd.
Mae'r Gwaharddiad Aros ar hyd Heol y Gweunydd, Cross Hands er mwyn atal parcio rhwystrol a pharcio tymor hir. Bydd y ddarpariaeth o leoedd parcio yn nodi lle mae'n briodol parcio a bydd cyflwyno cyfyngiadau ar hyd yr arhosiad yn mynd i'r afael â'r pwysau hynny a grëir gan gerbydau sy'n perthyn i gymudwyr sy'n rhannu ceir gan flaenoriaethu'r parcio sydd ar gael i'r rhai sy'n byw yn yr ardal ac yn ymweld â hi ac sydd angen parcio tymor byr.
Bydd y lle parcio amser cyfyngedig presennol fydd yn cael ei ddisodli gan y cyfyngiad Gwahardd Aros ar Stryd Fawr, Llangadog, yn caniatáu lonydd traffig mwy llydan ac yn lleihau'r risg o gerbydau mawr yn taro eiddo presennol.
Atodlen 1
Gwahardd Aros
1 Ardal | 2 Enw/Disgrifiad o'r Ffordd | 3 Cyfeirnod Map |
Y Betws |
Fford y Cyrnol | DJ171 |
Cross hands | Heol y Waun | CV167 |
Glanyfferi |
Ffordd y Porth | BI177 |
Y Garnant | Prif Ffordd yr A474 Heol Cwmaman | DT165 a DU165 |
Llandeilo | Heol Caerfyddin | DH128 a DI128 |
Llandeilo | Heol Diana | DH128 a DI128 |
Llandeilo | Greenfield | DH127 a DI128 |
Llangadog | Stryd yr Eglwys | DY104 a DY105 |
Atodlen 2
Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg Heb Eithriadau
1 Ardal | 2 Enw/Disgrifiad o'r Ffordd | 3 Cyfeirnod Map |
Y Garnant | Heol Ffoland | DU164 |
Atodlen 3
Cyfyngu Ar Yr Amser Aros I 2 Awr Gan Wahardd Dychwelyd O Fewn 2 Awr
Bob Amser, Bob Dydd
1 Ardal | 2 Enw/Disgrifiad o'r Ffordd | 3 Cyfeirnod Map |
Cross Hands |
Heol y Waun |
CV167 |
Atodlen 4
Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg Heb Eithriadau
1 Ardal | 2 Enw/Disgrifiad o'r Ffordd | 3 Cyfeirnod Map |
Y Betws | Ffordd y Cyrnol | DJ171 |
Atodlen 5
Dirymu'r Gwaharddiad Presennol Ar Aros
1 Ardal | 2 Enw/Disgrifiad o'r Ffordd | 3 Cyfeirnod Map |
Y Betws | Ffordd y Cyrnol | DJ171 |
Glanyfferi | Ffordd y Porth | BI177 |
Atodlen 6
Cyfyngu Ar Yr Amser Aros I 20 Munud Gan Wahardd Dychwelyd O Fewn 1 Awr, Dydd Llun - Dydd Sadwrn Rhwng 8.00am A 6.00pm
1 Ardal | 2 Enw/Disgrifiad o'r Ffordd | 3 Cyfeirnod Map |
Llangadog | Stryd yr Eglwys | DY104 a DY105 |
Mapiau
E-bost:HLDavies@sirgar.gov.uk
Llinell Uniongyrchol: (01267) 224076
Wendy Walters, Prif Weithredwr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin
- Math o hysbysiad: Teithio, Ffyrdd a Pharcio
- Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth