Apeliadau: Beth i'w wneud os ydych chi wedi cael gwrthod lle ysgol

Diweddarwyd y dudalen ar: 09/11/2023

Wrth ystyried a ddylid apelio, mae'n bwysig nodi, er bod y gyfraith yn caniatáu cyfle i chi apelio yn erbyn penderfyniadau derbyn, nid oes sicrwydd y bydd eich apêl yn llwyddiannus.

Os nad yw eich apêl yn llwyddiannus, gallech gael eich gadael heb le ysgol i'ch plentyn. Felly, yn ogystal â chyflwyno eich Apêl, dylech ystyried gwneud cais am ysgol arall sydd â lleoedd ar gael os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny rhag ofn na fydd eich apêl yn llwyddiannus Derbyniadau i Ysgolion a Newid Ysgolion (llyw.cymru).

Ni fydd gwneud cais am ysgol arall yn effeithio ar eich apêl. Y peth pwysicaf yn y broses hon yw bod gan eich plentyn ysgol i'w mynychu.

Gallwch ofyn i'r tîm Derbyn Disgyblion i Ysgolion  fynd ar restr aros eich hoff ysgol os ydych wedi cael gwrthod lle, hyd yn oed os byddwch yn penderfynu apelio. Pe bai lle yn dod ar gael yn yr ysgol, bydd eich cais am le yn cael ei ystyried, rhoddir gwybod i chi dros e-bost os byddwch yn llwyddiannus. Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael. Ni fydd gwneud cais am ysgol arall yn effeithio ar fod ar y rhestr aros.

Os ydych chi eisiau cyngor ar ysgolion eraill sydd â lleoedd ar gael neu os hoffech ychwanegu enw'ch plentyn at restr aros ysgol, ebostiwch derbyniadau@sirgar.gov.uk.

 

Y Broses ar gyfer Apelio

Apeliadau am ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (Ffydd)

Mae Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn gweinyddu eu derbyniadau eu hunain i'r ysgol. Felly bydd angen i chi gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol.

Dyma'r 6 ysgol wirfoddol a gynorthwyir:

  • Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd 
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Llanelli
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Caerfyrddin
  • Ysgol Gynradd Wirfoddol Eglwysig a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru - Model
  • Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Penboyr
  • Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Pentip

Apeliadau ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir 

Os gwrthodir lle i'ch plentyn mewn ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir, bydd adran Derbyn i Ysgolion yr Awdurdod Lleol yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad dros e-bost.  Bydd y tîm Derbyn i Ysgolion ond yn gwrthod lle mewn ysgol os yw'r flwyddyn rydych chi'n gwneud cais amdani yn llawn. Os gwrthodir lle i'ch plentyn yn eich hoff ysgolion, mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Yr unig eithriad i hyn yw os ydych yn gwneud cais am le meithrin rhan-amser i'ch plentyn 3 oed, nid oes hawl apelio yn yr achos hwn.

Sut i apelio

  • Ar ôl i chi dderbyn e-bost yn gwrthod eich cais am le i'ch plentyn mewn Ysgol Gymunedol neu Ysgol Wirfoddol. Dyma'r broses o apelio:
  • Bydd eich e-bost gwrthod yn cynnwys dolen gyswllt y mae angen i chi glicio arni ar gyfer e-ffurflen apêl Derbyn i Ysgolion. Bydd angen cyfeirnod y cais o'r e-bost hwn arnoch i gyflwyno'ch ffurflen apêl.
  • Rhaid i chi apelio o fewn yr amser a nodir ar eich e-bost gwrthod.
  • Mae angen i chi lenwi'r holl feysydd ar e-ffurflen apêl Derbyn i Ysgolion ac amlinellu'r prif sail dros yr apêl a chynnwys unrhyw ddogfennaeth ategol megis adroddiadau/llythyrau gan eich Meddyg/Ymgynghorydd GIG/Gweithiwr Cymdeithasol/Gorchymyn Llys ayyb.
  • Ar ôl ei llenwi, gwiriwch fod y manylion yn gywir a chyflwynwch yr e-ffurflen. Byddwch yn derbyn cyfeirnod apêl unigryw.
  • Bydd y Gwasanaethau Democrataidd (rhan o Adran y Prif Weithredwr) IndependentAdmissionAppealsPanel@sirgar.gov.uk sy'n gweinyddu'r broses apelio annibynnol ar ran y Panel, yn cysylltu â chi, i gadarnhau bod eich apêl wedi dod i law.
  • Ar ôl i'ch apêl gael ei chyflwyno, gwneir trefniadau i'r Panel Apêl Annibynnol glywed eich apêl yn unol â'r amserlenni a osodwyd gan Gôd Apelau Derbyn i Ysgolion 2023.
  • Rhoddir gwybod i chi am y trefniadau ar gyfer y gwrandawiad apêl a chewch eich gwahodd i fynychu gwrandawiad panel apêl annibynnol gan yr Uned Gwasanaethau Democrataidd.  
  • Bydd yr holl ddogfennaeth ar gyfer yr apêl yn cael ei hanfon atoch dros e-bost 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad eich apêl.

 

Gwrandawiad Apêl – beth i'w ddisgwyl

  • Bydd eich apêl yn cael ei chlywed gan Banel Apêl Annibynnol o 3 neu 5 aelod sy'n cynnwys aelodau lleyg (personau sydd heb brofiad o reoli/darparu addysg mewn ysgol) a phobl â phrofiad mewn addysg. Ni fydd unrhyw un o aelodau'r panel yn gysylltiedig â'r ysgol, ond bydd pob un wedi derbyn hyfforddiant ynghylch cynnal apeliadau. Nid gweithwyr y Cyngor ydyn nhw. 
  • Bydd eich apêl yn cael ei threfnu'n rhithwir drwy Zoom oni chytunwyd ar drefniadau ar gyfer gwrandawiad wyneb yn wyneb â'r Awdurdod Derbyn heb fod yn llai na 5 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad. Os caniateir gwrandawiad wyneb yn wyneb, bydd fel arfer yn cael ei gynnal naill ai yng Nghaerfyrddin neu Lanelli.
  • Bydd y broses apelio yn cael ei hesbonio'n fanwl gan y Cadeirydd ar ddechrau'r cyfarfod.
  • Ni allwch fod yng nghwmni aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin (Cynghorydd), un o swyddogion yr Awdurdod Lleol, Aelod Cynulliad na gwleidydd lleol.
  • Proses dau gam yw'r apêl:

o   Cam 1 - bydd yr awdurdod derbyniadau yn esbonio pam gwrthodir lle mewn ysgol i'ch plentyn.  Mae cyfle i rieni gwestiynu proses yr Awdurdod Derbyn ar hyn o bryd.  

Bydd y Panel yn gwneud penderfyniad, yn breifat, os bydd yr apêl yn mynd yn ei blaen i gam 2.

o   Cam 2 - Bydd cyfle i rieni amlinellu'r seiliau dros apelio i'r Panel.

Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn cael ei chynnwys yn eich pecyn apêl.

Gallwch ddisgwyl clywed penderfyniad y Panel ar eich apêl o fewn 7 - 10 diwrnod gwaith i'r gwrandawiad dros e-bost.

 

Tynnu eich apêl yn ôl

Os ydych yn newid eich meddwl, gallwch dynnu eich apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn y Gwrandawiad Apêl. E-bostiwch IndependentAdmissionAppealsPanel@sirgar.gov.uk cyn gynted â phosibl.

 

Os yw eich apêl yn llwyddiannus

Os cewch wybod bod eich apêl yn llwyddiannus, bydd angen i chi gysylltu â'r tîm Derbyn i Ysgolion i drafod y trefniadau derbyn i'r ysgol.

 

Os nad yw eich apêl yn llwyddiannus

Nid oes hawl pellach i apelio ar gyfer yr un ysgol tan y flwyddyn academaidd ganlynol.

Gall y tîm Derbyn i Ysgolion eich cynorthwyo i adnabod ysgol/ysgolion eraill sydd â lleoedd, os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am ysgol arall.

Dechreuwch eich apêl

Addysg ac Ysgolion