TGAU Mathemateg i oedolion

Diweddarwyd y dudalen ar: 13/03/2023

Bydd angen mynychu sesiwn wythnosol dau neu tri awr o hyd gyda thiwtor ac astudio yn ystod amser personol yn unol â chyfarwyddyd eich tiwtor. Gallwch wneud y cwrs hwn dros flwyddyn neu 2 flynedd, yn dibynnu ar eich anghenion personol.

Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu gan asesiad ffurfiannol parhaus gan diwtor a thrwy hunanfyfyrio. Dau bapur arholiad TGAU terfynol.

Mae hwn yn gwrs lefel ganolradd. Bydd angen ichi gwblhau asesiad cychwynnol gyda ni er mwyn sicrhau bod y cwrs hwn yn addas ar eich cyfer - mae cymorth a chyngor yn rhan o'r broses. Yn ogystal mae angen ichi fod yn gallu mynychu'r sesiynau yn gyson a hefyd gwneud y gwaith angenrheidiol gartref - mae hwn yn gwrs cywasgedig iawn sy'n gofyn am ymrwymiad - yn enwedig y cwrs blwyddyn o hyd.

Bydd angen i chi brynu set Mathemateg TGAU (cwmpawd, cyfrifiannell wyddonol, protractor ac ati) a llyfr dysgwyr CBAC.

Ffi y cwrs yw £60 ar gyfer TGAU Mathemateg - Rhifedd (CBAC) (dau bapur arholiad) ac £30 ychwanegol os ydych chi eisiau sefyll arholiad TGAU Mathemateg (CBAC) fel arholiad ychwanegol (dau bapur arholiad), neu i'r gwrth wyneb.

Bellach mae dwy fersiwn o'r papur sef:

  • TGAU Mathemateg - Rhifedd
  • TGAU Mathemateg

Ewch i wefan CBAC i gael rhagor o wybodaeth am hyn TGAU.

Lleoliad Diwrnod / Amser Wythnosau
Canolfan Ddysgu Rhydaman @ Streets

Dydd Iau, 12.00 – 15.00

Nos Mercher ar-lein, 17.00 - 20.00: e-bostiwch i drafod eich opsiynau. (Yn amodol ar Asesiad Cychwynnol a Chyfweliad)

31 wythnos - 1 flwyddyn
70 wythnos - 2 flynedd
(tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau)
Canolfan Ddysgu Caerfyrddin

Dydd Iau, 10:00-12:00, ac 1 awr ar-lein: e-bostiwch i drafod eich opsiynau.

Noswaith ar-lein: e-bostiwch i drafod eich opsiynau. (Yn amodol ar Asesiad Cychwynnol a Chyfweliad).

31 wythnos - 1 flwyddyn
70 wythnos - 2 flynedd
(tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau)
Canolfan Ddysgu Llanelli

Dydd Iau, 13:00 - 16:00

31 wythnos - 1 flwyddyn
70 wythnos - 2 flynedd
(tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau)

Ein nod yw darparu pob cwrs a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl. Ar ôl cofrestru, fel rheol ni roddir ad-daliad i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn parhau â'u hastudiaethau. Caiff ad-daliadau eu rhoi fel y gwelwn orau; bydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi 'pro rata' a hynny'n ôl nifer y sesiynau a fynychwyd.

Dyddiadau Tymor 2022/23 Dechrau Hanner Tymor Diwedd
Hydref 2022 05 Medi 31 Hydref - 04 Tachwedd 23 Rhagfyr
Gwanwyn 2023 09 Ionawr 20 Chwefror - 24 Chwefror 31 Mawrth
Haf 2023 17 Ebrill 29 Mai - 02 Mehefin 21 Gorffennaf

Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi'r Llywodraeth. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgil gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o'r fath.

Mae'r cwrs yma mewn partneriaeth a Choleg Sir Gâr.

Addysg ac Ysgolion