Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/10/2022

Bydd ein dosbarthiadau ESOL yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau Saesneg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae gennym ddysgwyr ar bob lefel boed yn ddechreuwyr neu'n ddysgwyr profiadol. P'un a ydych am fagu hyder wrth siarad a gwrando, i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer gwaith, astudio neu eich bywyd cartref, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r dosbarth mwyaf addas. Mae gennym ddosbarthiadau ar bob lefel yn ystod y dydd a gyda'r nos, ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol.

Sut i gofrestru?

Os ydych yn ddysgwr newydd neu os oes gennych ymholiad, ffoniwch 01267 235413 neu anfonwch e-bost i wneud apwyntiad i ddarganfod pa ddosbarth ESOL sy'n addas i chi. Rhaid i bob dysgwr gwblhau cyfweliad anffurfiol gydag aelod o staff a chael asesiad cyn cofrestru. Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Dewch â chopi o'ch cerdyn adnabod â llun (pasbort a thrwydded breswylio) gyda chi.

Peidiwch â phoeni am y cyfweliad asesu. Nid prawf yw hwn! Rydym am i chi lwyddo a bod yn hapus yn eich dosbarth, diben yr asesiad yw rhoi cyfle i ni ddarganfod beth rydych chi eisoes yn ei wybod, a pha ddosbarth fyddai'r gorau i chi o ran lefel a chyflymder.

Ein nod yw darparu pob dosbarth a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl.

Dyddiadau Tymor 2022/23 Dechrau Hanner Tymor Diwedd
Hydref 2022 05 Medi  31 Hydref - 04 Tachwedd 23 Rhagfyr
Gwanwyn 2023 09 Ionawr 20 Chwefror - 24 Chwefror  31 Mawrth
Haf 2023 17 Ebrill 29 Mai - 02 Mehefin 21 Gorffennaf

Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi'r Llywodraeth. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgil gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o'r fath.

Mae'r cwrs yma mewn partneriaeth a Choleg Sir Gâr.

Addysg ac Ysgolion